Cyhuddo tri yn dilyn ymosodiad honedig ym Mhowys
Mae tri o bobl wedi eu cyhuddo gan yr heddlu yn dilyn ymosodiad honedig gyda chyllell ar fenyw ym Mhowys yn oriau man fore Mawrth.
Cafodd plismyn eu galw i Ben y Bryn yn nhref Ystradgynlais am tua 1:55 a dod o hyd i'r fenyw wedi ei hanafu.
Cafodd y fenyw ei chludo i ysbyty, ac mae hi bellach wedi gadael, ar ôl cael triniaeth.
Mae Teresa Dilys Morgan-Peters, 44, o Ystradgynlais, Kathryn Llewellyn, 42, o Godre'r Graig a Gregory Alexander Morgan, 36, o Gwmtwrch Isaf wedi eu cyhuddo o gydweithio i achosi niwed corfforol difrifol.
Mae Ms Llewellyn a Ms Morgan-Peters hefyd wedi eu cyhuddo o achosi anaf yn fwriadol, lladrata a bod ag eitem finiog yn eu meddiant.
Ymddangosodd y tri yn Llys Ynadon Merthyr ddydd Llun ac maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.