Hiliaeth a Chymry Cymraeg: ‘Fe ddylen ni wneud mwy trwy godi llais'

Newyddion S4C 08/11/2022

Hiliaeth a Chymry Cymraeg: ‘Fe ddylen ni wneud mwy trwy godi llais'

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys iaith sarhaus a hiliol allai beri gofid

Mae teulu o Ddyffryn Ogwen wedi rhannu eu profiadau gyda rhaglen Newyddion S4C am fagu teulu hil gymysg mewn cymuned Gymraeg.

Dywed un teulu o Fethesda yng Ngwynedd fod angen i Gymry Cymraeg fynd i’r afael â hiliaeth gan ddweud fod unrhyw fath yn gwbl annerbyniol. Fe ddaw eu sylwadau ar ôl i Newyddion S4C adrodd stori dyn o Ynys Môn gafodd ei gamdrin yn hiliol yn y Gymraeg mewn clwb nos ym Mangor. Wrth rannu eu profiadau, maen nhw’n annog pobol i herio ymddygiad hiliol er mwyn rhoi stop ar hiliaeth.

Mae Medwen Edwards, 43 a’i phartner Lamin Touray yn byw ym Methesda gyda'u plant, Leo, 3, Koby, 2 ac Aminata sy’n 9 wythnos oed, a thri o blant Medwen o berthynas flaenorol. Mae ganddi naw o blant i gyd, gyda’r tri hynaf wedi gadael y nyth.

Mae Medwen am weld sylwadau hiliol 'meicrogasineb', sy'n aml yn cael eu dweud heb falais bwriadol, yn diflannu o gymdeithas: “Dydy dim fath o racism yn okay, ag ddim yn acceptable! Mewn unrhyw ffordd. Dim mewn ffordd joke na’mbyd arall.”

Gall meicrogasineb ymddangos mewn jôcs, sylwadau wrth fynd heibio, neu drwy eithrio pobol yn gymdeithasol.

O'r Gambia i Gymru

Symudodd Lamin i Gymru o Gambia yn 2007 i astudio cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor. Erbyn hyn mae’n gweithio fel dadansoddwr data i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Fe wnaeth y ddau gyfarfod mewn campfa leol yn 2017 - “Love at first sight o’dd o i’r ddau ohonan ni,” medda Medwen.

“Rydw'i yn lwcus iawn o gael o yn fy mywyd i, ag y plant hefyd. Mae o mor garedig a chariadus tuag atom ni gyd.”

A hithau wedi ei magu yn Nyffryn Ogwen, dywedodd Medwen mai prin ydy’r achosion o hiliaeth ar y cyfan, ond fod ei theulu wedi profi meicrogasineb hiliol nifer o weithiau. Mae’n disgrifio’r sylwadau yma fel rhai sydd wedi gwneud iddi deimlo’n drist. 

Image
medwen
Symudodd Lamin i Gymru o Gambia yn 2007 i astudio cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor

“Dan ni dal i ga’l comments hyd yn oed rwan, rhai pobol dal i fyw yn y 50s,” meddai.

“Dim ond amball slight remarks ’da ni’n cael. Comments a petha fel’na, ond fel arall mae pawb yma yn lyfli efo fo.”

Mae Cynghrair Hil Cymru yn datgan “bod hiliaeth anuniongyrchol yn cael ei fynegi trwy ‘ficro-gasineb’” sy’n cael ei ddisgrifio fel “sylwadau o ddiffyg parch, difrïo, a’r sarhad y mae pobl o liw, menywod, y gymuned LHDTQ+  neu’r rhai sydd ar yr ymylon yn eu profi wrth ymwneud â phobl o ddydd i ddydd.”

Mae Lamin a Medwen yn annog pobl i herio unrhyw ymddygiad hiliol sy’n cael ei ddangos gan aelodau o'r teulu, ffrindiau neu ddieithriaid. “Dwi ddim yn meddwl fod deud dachi yn anti-racist yn ddigon, ma isho dangos o hefyd.

“Ma’n digon hawdd ddeud fod chi yn, ond mai fel arfer yn stori wahanol pan mai'n amser dangos o tydi.”

Os yw pobol yn gweld neu yn clywed sylwadau hiliol yn cael eu dweud ar y stryd er enghraifft, mae Medwen yn deud fod angen i bobol godi eu llais:

“Yn bendant, 100%! Os dydy pobol ddim yn cael eu tynnu fyny amdan wbath ma nhw wedi ddeud ne’ gwneud yn syth bin, mae'n edrych fel fod hynny yn okay, ag weithia gallu mynd yn waeth a petha gwaeth yn cael ei deud neu eu gwneud wedyn.

“Dwi'n teimlo mor gryf am hiliaeth, faswn i ddim yn meddwl ddwywaith cyn confrontio unrhyw berson sy’n deud rhywbeth dim otch lle y bysan nhw.” 

Image
medwen 2
Mae Lamin a Medwen yn annog pobl i herio unrhyw ymddygiad hiliol sy’n cael ei ddangos gan aelodau o'r teulu, ffrindiau neu ddieithriaid.

Mae’r Aelod lleol o’r Senedd, Sian Gwenllian, yn cydnabod fod hiliaeth yn digwydd mewn cymunedau yng Nghymru.

“Dwi’n meddwl fod hi’n bwysig i ni gydnabod fod hiliaeth yn digwydd mewn cymunedau Cymraeg, o blith Cymry Cymraeg, yn ogystal a cymunedau eraill a siaradwyr o bob iaith.

“Yn anffodus mae hiliaeth yn beth byw iawn yn ein cymunedau ni ac mae angen i ni dreblu ein hymdrechon i gael gwared o honno unwaith ac am byth.

“Ddyla ni fel unigolion sy’n clywed unrhyw fath o hiliaeth ddim ei anwybyddu, ond ei wynebu a tynnu sylw i gymaint ma’ nhw’n tramgwyddo a chymaint o loes ma nhw’n ei roi i bobl eraill.”

Profiadau Medwen

Mae Medwen yn dweud fod cyfeiriadau hiliol tuag at ei phlant yn brifo i’r byw, gyda phobol wedi deud wrthi  “Dydi dy blant di methu caru ei gilydd am bo nhw wahanol lliw i’w gilydd.”

Ar ôl geni ail blentyn y cwpl, mae Medwen yn cofio sut y gwnaeth ambell un ym Methesda ofyn iddi: “Be maen nhw’n fyta gen ti, Bananas?’ I neud allan fatha bo nhw’n mwncis.”

Hefyd, yn gadarn yn y cof mae sylwadau rhai ffrindiau ar ôl i Medwen gyfarfod Lamin. “Pan natho nhw ffendio allan bo fi’n mynd allan efo Lamin odda nhw yn deud – ‘Ti’m yn ofn?’”

“Ac o’n i fatha yn gofyn ‘BE?’ Pam faswn i yn ofn fo?

“Petha dwi ’dwi ’di gael pobol yn deud wrtha fi ydy – ‘O! Am be tishio mynd efo dyn du eniwê? I be? Illegal immigrant ’dio.”

Roedd y sylwadau hyn yn mynd i’w chalon meddai: “Pethau brwnt ofnadwy ac even though 'di Lamin ddim yn siarad Cymraeg mae o’n dallt hynna, a mae o’n beth brwnt i ddeud dydi.”

Wrth holi ym mha gyd-destun oedd hyn yn digwydd, dywedodd: "Mae o’n digwydd yn every day life, maen nhw’n gallu deud petha annifyr,’ meddai Medwen.

Mae Medwen yn credu fod pobol yn deud pethau fel hyn am nad ydyn nhw “wedi arfer efo pobol ddu.”

“Mae geno fi lot o ffrindiau o wahanol wledydd, so dwi wedi arfer efo gwahanol cultures.

"Ond dydi lot o ffrindiau fi heb ’di arfar. Yn Bethesda, heb ’di arfer efo pobol du, wedyn maen nhw quite narrow minded yndi.

“Am bo nhw’n ffrindiau efo fi, fedra i ddim colli mhen efo nhw a gwylltio ond dyna be dwi’n teimlo fatha neud de.

Just gweld o’n frwnt ’dw i – pam treatio pobol yn wahanol am lliw eu croen nhw? Mae’n horrible dydi.”

Profiadau Lamin ar gae pêl-droed

Dywedodd Lamin mai ar gaeau pêl droed o gwmpas Bangor y cafodd o ei brofiadau cyntaf o hiliaeth yng Nghymru. Tra yn y brifysgol roedd Lamin yn chwarae i dîm lleol mewn cynghrair Sul.

“Roeddwn i’n mynd i chwarae mewn rhai llefydd ac oherwydd fy mod i’n wahanol, fe ddechreuon nhw wneud synau mwnci.

“Ond y ffordd rydw i’n gweld pethau, roedd y synau’n cael eu gwneud yng ngwres y funud. Dyna fywyd weithiau.”

Dywed Lamin nad yw’n esgusodi yr ymddygiad yma: “Tydw i ddim yn dweud ei bod yn iawn defnyddio’r pethau yma yn erbyn eich cyd-ddyn, ond nid ydym ni’n berffaith chwaith.”

Gan fod pêl-droed yn gamp gyswllt, mae Lamin yn credu bod y sylwadau hiliol wedi digwydd “i’w ddychryn yn ystod y gêm.”

“Er enghraifft, gallwch chi gicio’r person (ar y cae), ac yna maen nhw’n codi ac yn dechrau gwneud y synau mwnci hynny – er mwyn gweld eich ymateb.”

Mae Lamin yn esbonio bod yr awyrgylch yn gwbl wahanol yn y dafarn ar ôl y gêm.

“Mi roedd yr un bobl oedd yn gwneud y synau yma ar y cae yn dod i ysgwyd fy llaw – roedd o drosodd.”

Wrth edrych yn ôl â synnwyr trannoeth mae’n dweud mai  “meicrogasineb hiliol oedd y sylwadau hynny, a dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw dîm chwaraeon difrifol yn caniatáu hynny yn yr oes sydd ohoni.”

Swyddog Diogelwch

Tra'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, bu Lamin hefyd yn gweithio fel swyddog diogelwch mewn clwb nos prysur yn y ddinas. Mae’n cofio un noson fod criw o ddynion ifanc wedi bod yn hiliol tuag ato. “Yn sydyn, roedd un yn dweud ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun.”

“Yna aethon nhw ymlaen i ddweud yr N words, a dyna i mi oedd pan aeth pethau reit i lawr.”

Mewn ymateb fe ddywedodd Lamin wrthyn nhw: “Os oes gennych chi broblem efo fi, rydw i'n meddwl y gallwn ni ddatrys hynny, ond os oes gennych chi broblem gyda phobl ddu yn gyffredinol - mate mae hynny'n mynd i fod yn ddwfn.”

Er nad yw Lamin wedi profi hiliaeth uniongyrchol yn ddiweddar, mae’n dweud na fyddai’n gadael i sylwadau cas ei dristau yn ormodol.

“Byddaf ond yn teimlo fy mod yn cael fy ngham-drin yn hiliol os ydw i fy hun yn ei dderbyn, ond os na fyddaf yn ei dderbyn, tydi o’n ddim byd i mi.”

Wrth ymateb i’r sylwadau hiliol y mae Medwen wedi’u profi oedd wedi’u hanelu ato a’u plant, dywedodd Lamin: “Mae o braidd yn anffodus clywed y fath sylwadau am fy mhlant.”

Ond mae’n parhau’n obeithiol am eu dyfodol yng Ngogledd Cymru.

“Dydw i ddim yn poeni am hyn, am y tro, oherwydd rydyn ni’n gymuned fach, rydyn ni i gyd yn nabod ein gilydd.

“Rhaid i ni fynd i’r afael â phob math o hiliaeth.

“Fe ddylen ni wneud mwy trwy godi llais os ydyn ni’n gweld neu’n clywed pobl yn bod yn hiliol. Rhoi gwybod am ymddygiad hiliol i’r awdurdodau er mwyn osgoi i’r sefyllfa waethygu.”

Ffrind yn dioddef

Mae Medwen a Lamin wedi penderfynu codi llais ar ôl i’w cyfaill Ebehitale Igene (Abel ar lafar) gael ei gamdrin yn hiliol mewn clwb nos ym Mangor. Fis Mawrth eleni, fe ymosododd Tomos Wilson, 19, o Star ger Gaerwen ar Abel Igene deirgwaith. 

Y trydydd tro, roedd un o ffrindiau Tomos Wilson yn ffilmio ac fe gafodd yr ymosodiad ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y camdrin yn y Gymraeg, a doedd Abel ddim yn deall beth oedd yn cael ei ddweud.

Ar ôl i Tomos Wilson gael dedfryd o chwe mis o garchar wedi'i ohirio, bu Abel a’i bartner Nicola Owen yn dweud wrth Newyddion S4C bod angen cosbau llymach i droseddau hiliaeth.

Mae Medwen yn dweud fod hiliaeth yn bodoli ymhob iaith: “Dwi meddwl os ydy o mewn person i fod yn hiliol, yna hiliol fydda nhw, os ydyn nhw yn siarad Cymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall.

“Yn profiad fi, dwi’n Gymraes a pobol Cymraeg sydd wedi deud petha wrtha fi.

“O gwmpas fama y pobol hiliol ydy y rhai sy’n siarad Cymraeg. Os ydy person yn meddwl fod pobol Cymraeg ddim yn hiliol tydyn nhw yn amlwg heb gael profiad hyll hiliol gan berson sy’n siarad Cymraeg felly."

Ers yr ymosodiadau arno yng nghlwb nos Cube, mae Abel yn dioddef o iselder a phryder, ac mae Medwen yn galw ar bobol i ystyried teimladau eraill cyn gwneud sylwadau cas.

“Os ydach chi efo unrhyw deimladau tuag at rhywun, cadwch o i chi eich hun.

“Neu googlio educate yourself i chi gael dallt a gwbod.

“Mae o’n neud iddyn nhw deimlo fel bo nhw’n worthless. Maen nhw mor isel yn ei hunain, wedyn maen nhw’n depressed. A dydio’m yn fair nadi, achos lliw eu croen nhw.”

Strategaeth Senedd Cymru

Fis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru sy'n cynnwys mesurau i fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion a chymunedau.

Mae Medwen yn deud efallai y dylai’r llywodraeth ystyried rhoi mwy o bwerau i’r heddlu a gwneud yn siwr fod dedfrydau carchar yn cael eu rhoi i bobol sy’n ymosod yn hiliol.

“Efallai fysa'n syniad i’r heddlu gallu rhoi on the spot fine os ydyn nhw yn clywed rhywbeth yn cael ei ddeud ar y stryd.

“Mae isio rhoi mwy o sentences i bobol a neud yn siwr eu bod nhw yn cael carchar, a codi pris y cosb fel compensation i victims.

“Mae isio dangos fod o ddim yn acceptable a fod nhw angan cael mwy o gosb na sydd ar gael rwan.”

“'Da ni’n lwcus”

Mae Medwen yn dweud mai prin ar y cyfan, ydy’r sylwadau hiliol y mae hi wedi ei brofi.

“Ond ychydig o adegau rwyf wedi goro rhoi i fyny efo petha brwnt hiliol sydd wedi cael ei ddeud wrtha i, ac yn anffodus iawn amdan fy mhartner ac am y plant bach oeddan nhw.

“Ond am ei fod o (Lemin) mor friendly mae pobol just yn mopio efo fo pan mae’n nhw’n gyfarfod o."

Mae hi’n credu eu bod nhw fel teulu yn lwcus o gymharu â phrofiadau rhai o’i ffrindiau eraill. “Rwyf efo llawar iawn o ffrindiau o Affrica, a gwledydd erill - Saudi Arabia, India, Japan, Philippines, ac yn anffodus ma’ nhw wedi cael profiadau hiliol hefyd," meddai.

Yn ôl Medwen, erbyn hyn mae yna lai o bobol hiliol mewn cymdeithas nag oedd yn y gorffennol, ond “mae o dal o gwmpas” meddai.

“Dio’m mor fawr ddim mwy, mae o’n dechrau marw lawr, ond mae o dal yma.”

Profiad Tiah (17) merch Medwen

Mae Tia sy’n astudio Lefel-A, yn dweud fod pobol ifanc lleol yn gallu bod yn hiliol - “hogiau fel arfer, yn deud petha dydyn nhw ddim yn meddwl be ma nhw’n ddeud,” meddai.

“Maen nhw deud petha racist fatha comments a jôcs a ballu, meddwl bo nhw’n ffyni, ond dwi’m yn gweld o’n ffyni, a ’na i ddeud wrthyn nhw.”

“O ’na jôcs nath un ddeud o flaen fi yn gwybod fod stepdad fi’n Muslim. Deud nath o bod muslims i gyd yn terrorists a just petha’ stupid fel yna.”

Mae Tiah wedi ei siomi fod rhai pobl ifanc yn parhau i fod yn hiliol er fod negeseuon cyhoeddus gwrth-hiliaeth yn fwy amlwg.

“Dylsa petha fod yn wahanol rwan, mae o wedi bod yn mynd ymlaen mor hir do.

“'Sa chdi’n meddwl fod pobol di cael bach o common sense erbyn rwan.”

Hoffai Tiah pe bai pobol yn meddwl cyn siarad.

“Maen nhw angen agor llygad nhw a gweld sut mae petha go iawn. Da ni gyd yr un fath, dio’m ots pa lliw croen sgeno chdi.

“Da ni gyd yn teimlo yr un fath a mae o jest yn pathetic i ddeud petha fel’na.”

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan hiliaeth mae adnoddau ar gael yn y dolenni hyn all fod o gymorth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.