Neil Taylor yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol
Mae cyn-chwaraewr Cymru ac Abertawe Neil Taylor wedi ymddeol o bêl-droed proffesiynol.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr amddiffynnwr mai dyma oedd yr amser cywir iddo ymddeol.
"Dwi wir wedi mwynhau fy ngyrfa, yn chwarae o'r Gynghrair Genedlaethol yr holl ffordd i Uwch Gynghrair Lloegr a'r lefel rhyngwladol uchaf gyda fy Nghymru annwyl," dywedodd.
My professional career is over. Loved it.Onwards and upwards!! pic.twitter.com/NIomBBIApJ
— Neil Taylor (@Neiltaylor311) November 7, 2022
"Dwi'n teimlo fel fy mod i wedi gwneud y mwyaf o fy ngallu (neu ddiffyg gallu) trwy waith caled, bod yn benderfynol ac aberthu llawer."
Yn dilyn cyfnod fel chwaraewr ieuenctid gyda Manchester City, ymunodd Neil Taylor â chlwb Wrecsam yn 2005, cyn chwarae ei gêm gyntaf i'r clwb yn Awst 2007.
Chwaraeodd Taylor dros 75 o gemau i Wrecsam, ac ennyn diddordeb Abertawe a oedd yn chwarae yn y Bencampwriaeth ar y pryd.
Ymunodd Taylor â'r Elyrch yn 2010, gan sicrhau lle yn safle'r amddiffynnwr chwith. Achosodd anafiadau drafferthion iddo yn ei dymor cyntaf yno.
Roedd yn rhan o dîm Abertawe a sicrhaodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, er i'w gyfraniad yn y gemau ail-gyfle bara 53 eiliad yn unig, wedi iddo dderbyn cerdyn coch yn erbyn Nottingham Forest yn y rownd gyn-derfynol.
Cynorthwyodd Abertawe i orffen yn safle 11 yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair, a chafodd ei gynnwys yn nhîm y DU ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Bu'n anlwcus ar ddechrau tymor 2012/13, wedi iddo dorri ei bigwrn ym mis Medi a cholli gweddill y tymor, a gorfod brwydro gyda Ben Davies am safle'r amddiffynnwr chwith tan i Davies adael yn 2014. O hynny tan iddo adael yn 2017, Taylor oedd prif amddiffynnwr chwith yr Elyrch.
Atgofion melys EWRO 2016
Taylor oedd yr amdiffynnwr chwith ymhlith criw amddiffyn o bump wrth i Gymru synnu Ewrop ym mhencampwriaeth lwyddiannus EWRO 2016.
Arweiniodd Chris Coleman Gymru i'r rownd gyn-derfynol, gyda Taylor yn chwarae pob munud o bob gêm yn yr ymgyrch, a sgorio ei unig gôl dros Gymru yn erbyn Rwsia i helpu Cymru i fuddugoliaeth 3-0.
Yn dilyn y twrnamaint, roedd Taylor yn dal yn rhan o garfan Cymru tan iddo ymddeol o'r tîm cenedlaethol am resymau personol yn 2019.
Fe wnaeth ei yrfa ddomestig barhau, ac ymunodd ag Aston Villa wedi iddo adael Abertawe. Chwaraeodd 89 o gemau i'r clwb ac enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr am yr eildro yn ei yrfa wrth i Aston Villa guro Derby County.
Ond un gêm chwaraeodd yn yr Uwch Gynghrair a chafodd ei ryddhau gan y clwb yn 2021. Ymunodd â Middlesborough yn Nhachwedd yr un flwyddyn, ond oherwydd rhagor o anafiadau, chwaraeodd 14 gêm yn unig, cyn cael ei ryddhau.
Gorffennodd Taylor ei yrfa, wedi chwarae dros 360 gêm, sgorio pedair gôl, ac yn aelod o un o dimau mwyaf llwyddiannus Cymru erioed.