Rhybudd llifogydd mewn grym ar hyd arfordir y gorllewin a’r gogledd orllewin
06/11/2022
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd i ardaloedd ar hyd arfordir y gorllewin a’r gogledd orllewin.
Mae rhybudd 'llifogydd - byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer ardaloedd arfordirol o Sir Gaerfyrddin, Llŷn a Bae Ceredigion ac o Glarach i Aberteifi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma.
Dywed CNC bod angen i bobl gymryd gofal ar draethau, promenadau, llwybrau arfordirol, ffyrdd, tir isel ac aberoedd.