Cymru yn dechrau ymgyrch yr Hydref yn erbyn y Crysau Duon
Mae hanes Cymru yn erbyn Seland Newydd yn bwnc llosg ymhlith cefnogwyr rygbi sydd wastad yn codi adeg yma'r flwyddyn.
Wrth i wledydd hemisffer y de deithio i Ewrop ar gyfer gemau'r hydref, mae cefnogwyr yn dechrau gobeithio os eleni yw'r flwyddyn y bydd un o recordiau gwaethaf rygbi Cymru yn cael ei dorri o'r diwedd.
Chwarae 32. Colli 32. Ers 1953, bron i saith degawd, mae Cymru wedi bod yn chwilio am fuddugoliaeth arall yn erbyn y Crysau Duon.
Unwaith eto eleni, mae yna sibrydion mai hon yw'r flwyddyn i'r dynion mewn coch greu hanes.
Mae yna reswm i'w credu. Ym mis Awst, fe wnaeth Seland Newydd gwympo i bumed yn rhestr detholion y byd, eu safle gwaethaf erioed. Mae'r crysau duon hefyd wedi colli chwe allan o'i 12 gêm diwethaf.
Fe fydd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn gobeithio y gall y nifer o hen wynebau profiadol sydd yn dychwelyd i'r garfan sbarduno'r tîm i fanteisio ar berfformiad diweddar Seland Newydd.
Nid yw Ken Owens, Justin Tipuric na Leigh Halfpenny wedi chwarae dros eu gwlad mewn dros flwyddyn a hanner ond bellach maen nhw nôl ymhlith y tîm cychwynnol.
Mae yna ragor o gynrychiolaeth o'r criw profiadol hefyd ar y fainc, gydag Alun Wyn Jones a Rhys Priestland yn edrych i greu argraff yn hwyr yn y gêm.
Roedd y grŵp yma yn allweddol i lwyddiant Cymru dan Warren Gatland, ond ni lwyddodd y cyn-hyfforddwr i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd.
Gyda diwedd eu gyrfaoedd ar y gorwel, fe fydd y chwaraewyr a chefnogwyr yn gobeithio y gall un ymdrech arall gan y criw sicrhau buddugoliaeth.
Mae prif hyfforddwr Pivac wedi cyfuno'r hen wynebau gyda rhai iau wrth chwilio am fuddugoliaeth yn erbyn ei famwlad.
Mae disgwyl i Louis Rees-Zammit barhau i serennu ar yr asgell, tra bydd gan Rio Dyer gyfle i ddangos ei allu yn erbyn un o dimau gorau'r byd yn ystod ei gap gyntaf.
Ymhlith y blaenwyr, mae stoc Tommy Reffell yn parhau i godi, gan orfodi'r capten Tipuric i symud i'r flaenasgell ochr dywyll wrth berchnogi ar y crys rhif saith.
Ar y fainc mae Christ Tshiunza, sydd yn dechrau amlygu ei hun fel un o sêr y dyfodol.
Er hyn, mae'r her sydd yn wynebu'r garfan gymysg o wynebau hen ac ifanc, profiadol a llai profiadol, dal yn un enfawr.
Er gwaethaf eu canlyniadau diweddar, mae Seland Newydd dal yn brolio carfan o sêr fel Beauden Barrett, Aaron Smith, Ardie Savea a Sam Whitelock, chwaraewyr sydd wedi trechu Cymru yn hawdd yn y gorffennol.
Wrth i'r torfeydd heidio i Stadiwm Principality ar gyfer y cyntaf o bedair gêm brawf yn ystod mis Tachwedd, fe fydd disgwyliad y cefnogwyr yn yr aer yn y brifddinas.
A fydd Cymru yn dechrau pennod newydd, neu a fydd yr un hen stori yn cael ei hail-adrodd unwaith eto?