Newyddion S4C

Ffarwelio ag un o hyfforddwyr mwyaf blaenllaw pêl-droed Cymru

05/11/2022

Ffarwelio ag un o hyfforddwyr mwyaf blaenllaw pêl-droed Cymru

Fe fydd pêl-droed Cymru yn ffarwelio ag un o'i hyfforddwyr mwyaf blaenllaw ddydd Sadwrn. 

Mae Gavin Chesterfield wedi bod wrth y llyw gyda CPD Y Barri ers 2007, gan dreulio 15 mlynedd yn hyfforddi yng nghynghreiriau pêl-droed Cymru. 

Mae'r hyfforddwr hoffus nawr yn dweud hwyl fawr i'r Dreigiau, wrth iddo symud ymlaen i weithio i academi Caerdydd. 

Wrth i'r Barri wynebu Trefelin ddydd Sadwrn, fe fydd Gavin yn cymryd yr awenau ym Mharc Jenner am y tro olaf.

Yn dilyn y gêm mae'r clwb wedi trefnu dathliad mawr er mwyn diolch i'r hyfforddwr am ddegawd a hanner o wasanaeth. 

Wrth siarad yn ystod un o'i sesiynau hyfforddi olaf, dywedodd Gavin y bydd yna "lot o dristwch" wrth iddo ddweud hwyl fawr wrth y clwb. 

"Fe fydd yr elfen pêl-droed yn cael ei llenwi oherwydd dwi'n symud i weithio mewn pêl-droed llawn amser," meddai. 

"Ond elfen y bobl yw e, ti'n gallu gwneud cysylltiadau gyda phobl a dechrau 'nabod pobl gan ei enwau cyntaf.

"Mae fy nheulu yn galw'r lle yma yn gartref, ac mae pobl wedi bod yn dda iawn i fi, felly bydda i'n gweld eisiau'r lle 'ma'n fawr." 

Image
Gavin Chesterfield
Mae Gavin Chesterfield wedi mwynhau sawl blwyddyn lwyddiannus gyda'r Barri.

I'r rhai o fewn y clwb, mae effaith Gavin ar CPD Y Barri yn dyngedfennol. 

Dechreuodd Edryd Thomas fel cefnogwr Y Barri fel plentyn, cyn ymuno â'r clwb fel hyfforddwr y tîm cyntaf ddwy flynedd yn ôl. 

Dywedodd Edryd fod "oelion traed" Gavin ar draws y clwb i gyd, ac ni fyddai'r clwb yr un fath hebddo. 

“Dwi wedi bod yn dilyn y clwb am 18 mlynedd, ac am 15 o rheiny mae Gav wedi bod wrth y llyw.

"Mae mynd i fod yn golled enfawr i'r clwb, ac hefyd i'r tref.

"Mae e wedi cael dylanwad enfawr ar y clwb dros y 15 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio mor galed tu ôl i'r llenni, nid jyst ar y cae.

"Gweithio gyda'r academi, gweithio gyda'r gymuned, a tynnu pawb at ei gilydd." 

'Etifeddiaeth go iawn'

Ar ôl ymuno â'r clwb yn 2007, mae Gavin wedi bod yn gweithio gyda'r Barri yn ystod cyfnod cythryblus i'r clwb. 

Yn ystod y 2000au hwyr, roedd yna beryg y byddai'r clwb yn cael ei dynnnu allan o byramid pêl-droed Cymru gan ei berchennog ar y pryd. 

Cafodd ymgyrch ei lansio yn 2010 i achub y clwb, ac yn y pendraw fe wnaeth grwp o gefnogwyr gymryd rheolaeth o'r Barri.  Ond nid dyna oedd diwedd y problemau.

Yn 2013, bu rhaid i'r cefnogwyr ennill brwydr gyfreithiol yn y Goruchaf Lys yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn ennill trwydded i chwarae yn y system bêl-droed Gymreig.

Image
Gavin Chesterfield
Daeth Gavin i'r clwb yn 2007 yn ystod cyfnod cythryblus.

Er i'r clwb oroesi, cafodd ei osod yn y bedwaredd haen o bêl-droed Cymru. 

Ond dan arweinyddiaeth Chesterfield, mae'r clwb wedi mynd ymlaen i ffynnu.  Yn ystod ei 15 mlynedd wrth y llyw, fe wnaeth Y Barri ddychwelyd i'r JD Cymru Premier a hyd yn oed cystadlu yn Ewrop. 

Daeth sawl datblygiad oddi ar y cae hefyd, gyda thwf yr academi a phêl-droed merched a sefydlu timau i bobl hŷn a phêl-droed cerdded. 

Yn ôl Dr Ian Johnson, cefnogwr brwd o'r Barri sydd yn golygu'r rhaglen bob wythnos, ni fydd y clwb yn bodoli yn yr un ffordd heb ddylanwad Chesterfield. 

"Heb motafasiwn ac ymdrech Gavin Chesterfield, efallai ni fydd y clwb yma bellach," meddai.

"Etifeddiaeth Gavin yw clwb llwyddiannus cymunedol, os da chi'n gweld faint o bobl sy'n dod yma ar gyfer gemau, hwn yw dylanwad ac etifeddiaeth go iawn.

"Mae nifer o bobl yn cael eu cyfrif mewn tlysau a buddugoliaethau, mae dylanwad Gavin Chesterfield ar Barry Town yw sicrhau bod y clwb yn ffynnu ac yn parhau i'r dyfodol." 

Fe fydd Chesterfield yn dechrau mewn rôl newydd fel pennaeth academi clwb pêl-droed Caerdydd ar 14 Tachwedd.

Yn ei le, fe fydd yr is-reolwr, Lee Kendall, yn cymryd yr awenau. 

Image
Gavin Chesterfield
O dan arweinyddiaeth Gavin, fe wnaeth Y Barri ddychwelyd i'r JD Cymru Premier.

Gyda ffarwel poenus ar y gorwel, a'i enw eisoes yn y llyfrau hanes, beth yw hoff atgofion Gavin Chesterfield o gyfnod anhygoel gyda'r Barri? 

"Dwi jyst eisiau dweud y bobl ni wedi cwrdd â nhw," meddai. 

"Dwi wedi bod yn ffodus i fwynhau rhai tlysau, dyrchafiadau, chwarae yn Ewrop yn uchafbwynt enfawr.

"Ond i fi mae chwaraeon i gyd am atgofion."

"Allech chi werthu eich medalau a dyw nhw ddim yn werth lot, ond yr atgofion sydd yn aros gyda chi ac maen nhw fel arfer yn seiliedig ar bobl dda." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.