Twitter i wneud toriadau swyddi ar ôl i Elon Musk gymryd drosodd

Mae cwmni Twitter wedi dweud y bydd staff yn cael gwybod a fyddan nhw'n cael eu diswyddo neu beidio ddydd Gwener.
Daw’r newidiadau wedi i’r biliwynydd Elon Musk brynu’r Twitter am $44 biliwn wythnos ddiwethaf.
Mewn e-bost mewnol, dywedodd y cwmni cyfryngau cymdeithasol fod y toriadau yn "ymdrech i osod Twitter ar lwybr iach".
Ychwanegodd y cwmni y byddai ei swyddfeydd ar gau dros dro.
Mae disgwyl i staff dderbyn e-bost gyda'r pwnc "Eich Rôl yn Twitter" erbyn 09:00 bore dydd Gwener (16:00 amser Prydain).
Rhagor yma.