Disgwyl cymeradwyo adeiladu eisteddle 5,500 yn stadiwm Wrecsam
Bydd disgwyl i gynlluniau i adeiladi eisteddle'r 'Kop' yn stadiwm y Cae Ras gael eu cymeradwyo gan Gyngor Wrecsam.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys eisteddle ar gyfer 5,500 o gefnogwyr yn ogystal â lolfa groeso, swyddfa a chyfleusterau i Ymddiriedolaeth Gymunedol y clwb.
Bydd adeiladu'r eisteddle newydd yn golygu bydd pob eisteddle yn y stadiwm yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ers 2008, a gall torf o dros 15,000 fynychu gemau Wrecsam.
Mi fydd y cais cynllunio yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam ddydd Llun 7 Tachwedd.
Mae adroddiad gan adran cynllunio Cyngor Wrecsam yn dweud fod disgwyl i'r cynllun wella cyfleusterau'r Cae Ras a chodi proffil y clwb a'r ddinas.
Ychwanegodd yr adroddiad: "Mae'r cynllun o bwysigrwydd arwyddocaol i'r cyhoedd. Mae wedi cydnabod bod y cynllun yn cynyddu nifer y bobl yn y stadiwm."
Os fydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd disgwyl i drafodaeth gymryd lle rhwng CPD Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am lefelau ffosffad yr ardal.
Mae ceisiau cynllunio wedi cael eu gwrthod am resymau ffosffad, oherwydd lleoliad y safle, a'r effaith amgylcheddol ar Afon Dyfrdwy, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod targedau i leihau lefelau ffosffad mewn afonydd.