Y Goruchaf Lys yn gwrthod cais cynllunio i adeiladu 400 o dai yn Aberdyfi

02/11/2022
Aberdyfi / The Britannia Inn

Mae'r Goruchaf Lys wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i adeiladu 400 o dai yn Aberdyfi. 

Roedd cwmni Hillside Parks Ltd wedi bwriadu datblygu'r safle gan ddefnyddio caniatâd cynllunio oedd wedi ei roi 53 o flynyddoedd yn ôl, er mwyn ceisio cyfiawnhau'r datblygiad. 

Dyfarnodd y Goruchaf Lys ddydd Mercher fod y "datblygiad yn anghyson gyda chaniatâd cynllunio 1967 ac felly mae hi'm amhosib i ddatblygu ar y safle" a fod "datblygiadau eraill yn dangos fod y datblygwr wedi methu â dangos ei fod wedi sicrhau unrhyw ganiatâd cynllunio." 

Fe wnaeth y Llys Apêl ddyfarnu yn 2020 bod caniatâd cynllunio o 1967 i adeiladu dros 400 o dai yn Aberdyfi bellach yn annilys, ac o'r herwydd, aeth yr achos ymlaen i'r Goruchaf Lys ym mis Mehefin. 

Oherwydd sawl caniatâd cynllunio gwahanol, dim ond 27 o dai a gafodd eu hadeiladu, ac fe benderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod y cais gwreiddiol bellach yn annilys yn sgil yr holl newidiadau. 

Yn sgil gwrthwynebiad yr Awdurdod, fe wnaeth Hillside Parks Ltd geisio cymryd camau cyfreithiol yn 2019, ond roedd dyfarniad y Llys Apêl yn ffafrio'r Parc Cenedlaethol ac fe gafodd y caniatâd cynllunio ei ddileu.

Roedd y cwmni datblygu yn awyddus i herio penderfyniad y Llys Apêl yn y Goruchaf Lys. 

Mewn datganiad yn dilyn y dyfarniad ddydd Mercher, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, fod hon yn "fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin ac yn adlewyrchu'r gwrthwynebiad llethol gan y gymuned leol yn Aberdyfi i'r cais cyllunio anaddas yma."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn wrth Hillside Park Ltd. am eu hymateb i benderfyniad y Goruchaf Lys.

Llun: The Britannia Inn 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.