Cyhoeddi cystadleuwyr I'm a Celebrity wrth i'r gyfres ddychwelyd i Awstralia
Mae ITV wedi cadarnhau'r rhestr o enwogion a fydd yn teithio i'r jwngl ar gyfer y gyfres newydd o I'm a Celebrity...Get Me Out of Here.
Eleni bydd y gyfres yn dychwelyd i Awstralia am y tro cyntaf ers y pandemig, wedi dwy flynedd o ffilmio yng Nghastell Gwrych yn Abergele.
Fel blynyddoedd cynt, 10 o enwogion fydd yn cystadlu gyda'i gilydd i ddechrau er mwyn cael eu coroni yn frenin neu frenhines y jwngl.
Mae disgwyl y bydd ambell wyneb arall yn ymuno â nhw wrth i'r gyfres fynd yn ei blaen.
Yn eu plith mae'r canwr eiconig Boy George a'r cyflwynydd radio enwog Chris Moyles.
Fe fydd y chwaraewr rygbi Mike Tindall hefyd yn cystadlu yn y gyfres, sef yr aelod cyntaf o'r teulu brenhinol i gystadlu.
Athletwr arall fydd yn cyfnewid yr ystafelloedd newid ar gyfer y jwngl yw Jill Scott, a wnaeth arwain tîm pêl-droed merched Lloegr i fuddugoliaeth ym mhencampwriaeth yr Ewros dros yr haf.
Fel sy'n draddodiad erbyn hyn, mae yna gynrychiolaeth o'r operâu sebon, gyda Sue Cleaver o Coronation Street ac Owen Warner o Hollyoaks yn cymryd rhan.
Fe fydd rhai cyflwynwyr teledu hefyd yn wynebu bywyd gwyllt Awstralia wrth i Scarlette Douglas o A Place in the Sun a Charlene White o Loose Women gymryd rhan yn y gyfres.
Mae yna hefyd gystadleuwyr sydd wedi dod yn enwog trwy gyfresi realaidd gwahanol, cyn troi at y jwngl.
Fe fydd Olivia Atwood, a oedd yn rhan o'r drydedd gyfres o Love Island, a Babatúndé Aléshé, comedïwr sydd wedi dod yn adnabyddus ar Celebrity Gogglebox, yn rhan o'r grŵp eleni.
Fe fydd y bennod gyntaf o'r gyfres newydd yn cael ei darlledu nos Sul, gyda'r cyflwynwyr Ant a Dec unwaith eto yn agor y drysau i'r jwngl.