'Digon yw digon': Joe Biden yn condemnio'r ymosodiad ar ŵr Nancy Pelosi

Mae Paul Pelosi, gŵr Llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr yr UDA Nancy Pelosi, yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl dioddef ymosodiad yn eu tŷ.
Cafodd Mr Pelosi anaf i'w benglog yn ystod yr ymosodiad yn eu cartref yn San Francisco ddydd Gwener. Roedd Mrs Pelosi yn Washington ar y pryd.
Mae’r heddlu wedi arestio dyn 42 oed mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae Arlywydd yr UDA Joe Biden wedi condemnio'r ymosodiad, gan ddweud: “Digon yw digon. Mae’n rhaid i bob person o gydwybod da sefyll yn erbyn y trais yn ein gwleidyddiaeth.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit