Streiciau trên i effeithio ar gefnogwyr Cymru yng nghyfres yr Hydref

Mae cefnogwyr rygbi sydd yn teithio i Gaerdydd i wylio Cymru yn chwarae Seland Newydd ar 5 Tachwedd wedi cael eu rhybuddio y bydd gwasanaethau cyfyngedig i'r brifddinas o achos streic gan weithwyr rheilffyrdd.
Bydd y rhan fwyaf o drenau ar draws rhwydwaith Cymru a’r ffin yn cael eu canslo, gyda Network Rail yn dweud y bydd ychydig iawn o wasanaethau'n rhedeg i’r dwyrain o Gaerdydd ac yn y cymoedd yn unig.
Ychwanegodd Network Rail na fydd unrhyw wasanaethau trên penodol i gefnogwyr o Gaerdydd ar ôl y gêm, gyda’r gwasanaeth olaf o’r brifddinas yn gadael cyn 17:00.
Fel arfer mae tua 35,000 o bobl yn teithio ar drenau i Gaerdydd i wylio gemau rygbi rhyngwladol, gyda mwy na 20,000 yn cael tocyn dwy ffordd.
O ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol, bydd y niferoedd all gael eu cludo i Gaerdydd yn yr oriau cyn y gêm tua 75% yn llai na’r arfer.
Gan fod cyfyngiadau ar wasanaethau trên, mae’r rheiny sydd am yrru wedi cael eu cynghori i adael digon o amser i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd neu Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o’r streicio, ond bydd eu gwasanaethau yn cael eu heffeithio gan eu bod yn ddibynol ar weithwyr Network Rail i redeg eu trenau ar draws y rhwydwaith.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Rheolwr-Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru: “Diogelwch ein teithwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac felly o ganlyniad i effaith sylweddol gweithredu diwydiannol ar ein gallu i redeg gwasanaethau, rydym yn cynghori ein cwsmeriaid i beidio â theithio ar y trenau ddydd Sadwrn 5 Tachwedd ac i wneud trefniadau gwahanol.
“Byddwn yn parhau i gydweithio gyda’n partneriaid i sicrhau y gallwn gefnogi’r digwyddiad yn y ffordd fwyaf diogel â phosib.”
Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cwsmeriaid a Gweithredoedd GWR: “Mae’n ddrwg gennym ni i gefnogwyr rygbi fyddai fel arfer yn teithio gyda ni i Gaerdydd.
“Yn anffodus, o ganlyniad i’r amser gweithredu cyfyngedig fydd yn cael ei achosi gan y gweithredu diwydiannol, ni fydd yn bosib i ni ddarparu gwasanaethau trên ar ôl y gêm, felly mae’n rhaid i ni ddweud wrth deithwyr i beidio â theithio i’r gêm ar drenau.”
Yn ôl Network Rail, mae’n bosib y gall teithwyr dderbyn ad-daliadau os nad ydyn nhw’n gallu teithio ar ddiwrnodau’r streiciau. Fe fydd yn bosib hefyd i deithwyr ddefnyddio’u tocynnau ar ddiwrnodau gwahanol.