Cyffro cyfranwyr Gogglebocs Cymru cyn darlledu'r rhaglen gyntaf
Mae cyfranwyr Gogglebocs Cymru yn dweud eu bod yn gyffrous i fod yn rhan o'r gyfres newydd ar S4C.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd rhai cyfranwyr y gyfres eu bod yn edrych ymlaen yn fawr at ddarlledu'r bennod gyntaf nos Fercher nesaf.
Mae Nia Phillips a'i phlant George ac Olivia o Lanelli wedi eu dewis ar gyfer y rhaglen. Dywedodd Nia fod cyffro a sioc ymysg y tri pan gafodd eu dewis i gymryd rhan.
"O'n ni bach yn shocked i ddechre a cyffrous, ond nawr mae e mwy agos, ni'n teimlo mwy nerfus.
"Ma' fe bach yn surreal a "wow ma hwn yn actually digwydd", so cyffrous a nerfus i fod yn onest. Ond fi'n siŵr unwaith ma'r un cynta' wedi neud bydd e'n iawn wedyn."
Yn dilyn llwyddiant y gyfres Saesneg, mae Nia yn meddwl y bydd y disgwyliadau yn uchel ar gyfer y gyfres newydd, ond mae hi hefyd yn credu bod diddordeb mewn rhaglenni Cymraeg yn golygu y gall y gyfres brofi'r un llwyddiant a'r un Saesneg.
"Fi'n credu bydd disgwyliade' uchel. Ond ma' shwt atyniad at y Gymraeg ac at rhaglenni Cymraeg fi'n siŵr eith e'n iawn.
"Ma'n bwysig iawn bod y Gymraeg yn cadw mynd a bod e'n rhywbeth i Gymru ei hunen."
'Chwerthin a surprises'
Dau arall fydd yn rhan o’r gyfres yw Carwyn Elis a Mark Rogers sydd yn byw dros Glawdd Offa, yn Bolton.
Dywedodd Carwyn wrth Newyddion S4C eu bod nhw “mor excited” pan gafodd Gogglebocs Cymru ei gyhoeddi gan S4C.
“Yn syth roedd y ddau ohonom isho cymryd rhan. Mae Cymru wedi bo’n disgwyl blynyddoedd i hyn ddigwydd, ac mi fydd yn wych!”
Ychwanegodd Carwyn ei bod hi’n anodd credu pan ddaeth cadarnhad y byddai’r ddau ffrind yn ymuno â chast y gyfres.
“Methu coelio i ddechrau,” meddai.
“Mae’r ddau ohonom wedi mwynhau’r sioe ers iddi ddechrau ac rydym yn teimlo mor lwcus i fod yn rhan o’r fersiwn Cymraeg.”
Gyda phoblogrwydd y gyfres wreiddiol yn y Saesneg, oedd yna elfen o nerfusrwydd am ymuno â chyfres sydd yn cael ei gwylio gan gymaint o bobl?
“Rydym ychydig yn nerfus, ond hefyd hyderus, lot o hwyl yn barod. Lot o chwerthin a surprises i ddod,” meddai.
“Mi fydd y fersiwn Gymraeg yn bendant yn llwyddiannus, edrych ‘mlaen i bawb ddod i ‘nabod ein personoliaethau dros yr ychydig wythnosau nesaf ac i wylio teledu efo ni’n dau a gweddill y cast.”
O ran eu hoff raglen deledu, mae Carwyn a Mark wrth eu bodd gyda Priodas Pum Mil ac maen nhw hefyd yn edrych ymlaen at gael gwylio rhaglenni dogfen a dramâu fel Dal Y Mellt.