Dedfrydu heddwas am ymosod ar fachgen bregus ym Merthyr Tudful
Mae heddwas a ymosododd ar fachgen bregus yn ei arddegau ar ôl ei arestio o dan y Ddeddf Terfysgaeth wedi cael ei ddedfrydu.
Fe wnaeth yr Arolygydd Dean Gittoes, 49, o Ferthyr Tudful, gadw’r llanc 16 oed yn “anghyfreithlon” y tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful ar 20 Awst y llynedd.
Cafodd y digwyddiad ei ddal ar fideo YouTube sydd bellach wedi’i ddileu oedd wedi ei recordio gan y llanc, a honnodd ar y pryd ei fod yn “archwilio” yr orsaf yn Ne Cymru.
Mae’r term “archwilio” neu "auditing" yn cyfeirio at gymuned ar-lein o bobl sy’n recordio ac yn uwchlwytho fideos o adeiladau’r llywodraeth, fel gorsafoedd yr heddlu.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd, cafodd Gittoes orchymyn cymunedol 12 mis i gwblhau 200 awr o waith di-dâl o fewn blwyddyn.
Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu costau o £1275, sy'n cynnwys iawndal o £250 i'r dioddefwr.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Sophie Toms: “Fe wnaethoch chi ymosod ar fachgen bregus 16 oed a oedd yn ffilmio ar gyfer ei sianel YouTube.
“Doedd dim cyfiawnhad dros fynd ato fel y gwnaethoch chi, dim cyfiawnhad dros roi eich dwylo arno, a dim cyfiawnhad dros ei arestio.
“Roedd yn ymosodiad anghyfreithlon parhaus.”
'Camddefnydd o rym'
Dywedodd y Barnwr Toms fod y drosedd wedi’i gwaethygu gan y ffaith ei fod yn gamddefnydd o rym a bod Gittoes wedi diraddio’r llanc trwy ei alw’n “freak rhyngrwyd bach clyfar”.
“Fodd bynnag, rydw i’n cymryd i ystyriaeth eich bod chi o gymeriad da a bod hyn yn groes i’ch cymeriad chi,” ychwanegodd.
Fe wnaeth bargyfreithiwr Gittoes, Christopher Rees, apelio i’r llys i ganiatáu gorchymyn cymunedol, a dywedodd: “Mae’n parhau i fod y sefyllfa y bydd y diffynnydd, o ganlyniad i’w euogfarn, yn colli ei swydd fel heddwas.
“Pedair blynedd ar hugain o wasanaeth cyhoeddus. Mae honno’n gosb sylweddol ynddi’i hun.
“Mae hon yn drasiedi bersonol i Mr Gittoes, sydd nid yn unig yn colli ei yrfa ond hefyd ei enw da.”
Cafwyd Gittoes yn euog o ymosod ar 5 Hydref pan ddaeth y Barnwr Toms i’r casgliad: “Ni fyddai unrhyw berson rhesymol â’r un ffeithiau yn ei feddiant wedi amau’r ieuenctid o derfysgaeth.”
Dywedodd cyfarwyddwraig Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, Catrin Evans: “Er bod adegau pan fo angen defnyddio grym, dim ond os yw’n angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur o dan yr amgylchiadau yr ymddiriedir y pŵer i swyddogion heddlu wneud hynny.”
Llun: PA