Elon Musk gam yn nes at brynu Twitter?
Mae Elon Musk wedi cyhoeddi fideo ohono'i hun yn cerdded i mewn i bencadlys Twitter gyda sinc yn ei law.
Daw hyn cyn y dyddiad cau ddydd Gwener pan fydd angen iddo gwblhau cytundeb gwerth 44 biliwn o ddoleri os yw am brynu’r cwmni.
Yn y fideo roedd Mr Musk yn cario sinc drwy bencadlys Twitter, ac mewn neges ar ei gyfrif Twitter fe ddywedodd: “Mynd i mewn i Bencadlys Twitter – gadewch i hynny suddo i mewn!” - gan gyfeirio at y sinc a'r ymadrodd "sink in" yn Saesneg.
Mae llys wedi rhoi tan ddydd Gwener i Mr Musk gwblhau ei gytundeb o fis Ebrill i brynu'r cwmni ar ôl iddo geisio tynnu’n ôl o’r cytundeb yn gynharach.
Entering Twitter HQ – let that sink in! pic.twitter.com/D68z4K2wq7
— Elon Musk (@elonmusk) October 26, 2022
Nid yw Mr Musk na Twitter wedi dweud a yw'r cytundeb wedi'i gwblhau eto.
Cadarnhaodd Twitter fod fideo Mr Musk yn un wreiddiol ond nad oedd y cwmni am wneud sylw pellach.
Dywedodd y Washington Post mewn adroddiad yr wythnos diwethaf fod Mr Musk wedi dweud wrth ddarpar fuddsoddwyr ei fod yn bwriadu cwtogi tri chwarter o 7,500 o weithwyr Twitter pan ddaw’n berchennog ar y cwmni.
Un o heriau mwyaf Mr Musk i gau'r fargen a phrynnu Twitter yw cadw'r cyllid oedd ar gael iddo tua chwe mis yn ôl yn ei le.