Newyddion S4C

Cricedwyr Iwerddon yn curo Lloegr gyda chymorth y glaw yn Melbourne

26/10/2022
IWERDDON PA

Fe lwyddodd cricedwyr Iwerddon i hawlio buddugoliaeth nodedig yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd T20 ddydd Mercher, gydag ychydig o gymorth gan y glaw yn Melbourne.

Roedd capten y Gwyddelod, Andy Balbirnie, wedi sicrhau 62 rhediad oddi ar 47 pêl cyn i Iwerddon fod i gyd allan am 157 o rediadau mewn 19.2 pelawd.

Ond fe gwympodd Lloegr i 86 am bump o dan orchudd cymylau trwm ac, er gwaethaf ymdrechion hwyr Moeen Ali, roedden nhw'n dal yn brin o gyrraedd y nod pan agorodd y nefoedd.

Profodd yr oedi yn dyngedfennol wrth i Loegr, ar 105 am bump pan ddechreuodd y glaw, lithro i golled o bum rhediad, gan roi ergyd sylweddol i'w gobeithion o gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Un mlynedd ar ddeg ers eu buddugoliaeth dros yr un gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Byd 50 pelawd yn Bangalore, mae Iwerddon wedi agor y grŵp Super 12 yn llydan, gyda Lloegr angen ennill eu tair gêm arall i orffen yn y ddau safle uchaf.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.