Dyn a menyw oedrannus wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae dyn a menyw oedrannus wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion a fedrai fod â gwybodaeth i'r gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A4115 rhwng Tredeml a Cross Hands, Sir Benfro.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig cyn 17:30 nos Fawrth.
Roedd tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - Hyundai i10 arian, Peugeot 3008 gwyn a Mini arian.
Roedd y dyn a'r fenyw yn teithio yn yr un car ac mae eu teulu agos wedi cael gwybod.
Fe gafodd oedolyn a dau blentyn eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod nos Fawrth er mwyn cynnal ymchwiliad cyn iddi gael ei hail-agor am 1:45.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20221025-299.