Galwad i warchod menywod sydd wedi mudo i Gymru sy’n dioddef camdriniaeth
Mae menywod sydd wedi mudo i Gymru sy’n dioddef trais a cham-drin ar sail rhywedd yn aml yn syrthio drwy’r bylchau, yn ôl adroddiad gan y Senedd.
Mae'r ddogfen yn nodi fod nifer yn wynebu rhwystrau cyn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Yn ôl yr adroddiad dyw strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar drais domestig ddim yn mynd i'r afael yn iawn ag anghenion menywod a phlant mudol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cefnogi menywod mudol sydd yn ffoi o drais a cham-drin domestig yn "flaenoriaeth" o fewn ei gynlluniau.
Mae'r ddogfen yn nodi bod menywod sydd wedi mudo i Gymru sy'n wynebu cam-drin domestig a thrais rhywiol yn aml yn cael eu hatal rhag cael cymorth, naill ai oherwydd nid ydynt yn gwybod beth yw eu hawliau neu nid ydynt yn gwybod ble i fynd am help.
Yn ôl y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mae menywod heb blant yn wynebu risg arbennig, gan eu bod yn cael llai o gyswllt ag ysgolion, ysbytai a gwasanaethau statudol eraill.
Mae polisi Llywodraeth y DU ‘Heb Hawl i Arian Cyhoeddus’ (NRPF) yn gwahardd y rhai ar fisa priod neu fisa myfyriwr rhag cael budd-daliadau, cymorth digartrefedd a thai cymdeithasol gan awdurdodau lleol.
Mae'r pwyllgor yn dweud bod hyn yn golygu bod llawer yn aros mewn perthynas lle maent yn cael eu cam-drin.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa i'w helpu nhw nes y bydd penderfyniad ar hepgor statws Heb Hawl i Arian Cyhoeddus y DU wedi'i wneud.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi dioddefwyr a goroeswyr nad oes ganddynt unrhyw lwybr at arian cyhoeddus (NRPF) sy’n ffoi rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig yn ein strategaeth VAWDASV Genedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar."
"Rydym yn credu’n gryf y dylai menywod sy'n fudwyr gael mynediad at arian cyhoeddus ac nid wynebu amddifadedd o ganlyniad i’w statws mewnfudo."