Eclips solar rhannol wedi'i weld ar draws y DU

25/10/2022
eclipse

Mae unig eclips solar y flwyddyn i'w weld yn y DU wedi digwydd ddydd Mawrth.

Dechreuodd yr eclips solar rhannol am 10:08, gyda'r eclips i’w weld yn fwyaf llawn am 10:59.

Roedd modd ei weld ar draws y DU tan tua 12:00 yn dibynnu ar ddiffyg cymylau.

Mae eclipsau solar yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul a'r ddaear.

Fe wnaeth Cymdeithas Seryddol Frenhinol atgoffa bobl i beidio ag edrych yn uniongyrchol ar yr haul, yn enwedig yn ystod eclips.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.