Protest yng Nghaerdydd dros hawliau dynol pobl Iran
Protest yng Nghaerdydd dros hawliau dynol pobl Iran
Cynhaliwyd protest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i gefnogi hawliau dynol pobl Iran.
Oherwydd rheolau llym y wlad mae yna gyfyngiadau ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ac mae nifer o bobol wedi'u lladd.
Fe ddechreuodd y protestiadau ar draws Iran bedair wythnos yn ôl wedi marwolaeth Mahsa Amini ar ôl iddi gael ei harestio am beidio â gwisgo penwisg yn y ffordd gywir.
Dywedodd Elin Parisa Fouladi: “Ma' mor bwysig bod yma heddiw achos ma' raid i ni fod y lleisiau i'r bobl sydd yn Iran.
"Dwi'n rili poeni am fy nheulu yn Iran. Dwi'n pobl am y bobl Iranaidd i gyd sydd yn Iran, dwi jyst yn gobeithio bydd newid yn dod allan o hyn. 'Da ni ddim di gweld hyn o'r blaen lle ma' protestiadau wedi para mor hir.
"Ma’ raid bod 'na newid tro 'ma, a ma' pawb mor benderfynol. Di nhw ddim yn rhoi fyny. Ma' nhw di cael digon.”