Cau Pont Menai yn ‘sefyllfa gwbl argyfyngus’

21/10/2022

Cau Pont Menai yn ‘sefyllfa gwbl argyfyngus’

Mae cau Pont Menai yn “sefyllfa gwbl argyfyngus”, yn ôl yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn. 

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae hon yn amlwg yn sefyllfa argyfyngus o ran trefniadau a chysylltiadau teithio yn ardal y Fenai.”

Fe wnaeth Pont Menai gau am 14:00 ddydd Gwener ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol yn sgil argymhellion diogelwch gan beirianwyr. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bod hi’n bosib y bydd angen cryfhau rhai mannau o'r bont a gallai hyn gymryd rhwng 14-16 wythnos, gyda'r llywodraeth yn dweud eu bod yn gobeithio bydd y bont yn ailagor yn gynnar yn 2023. 

Daw'r cyhoeddiad yma wedi profion ar bontydd yn ddiweddar, ac yn sgil ymchwiliad pellach, mae peryglon sylweddol wedi cael eu canfod. 

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: “'Dna ni angen nifer o atebion yn syth rŵan.  Pa mor fuan ydan ni’n gallu symud tuag at agor y bont?  Pa gamau bydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd wirioneddol angen gwneud y croesiad yna bob dydd yn gallu gwneud hynny mor hawdd â phosib?

“Mae hwn yn sefyllfa gwbl argyfyngus o ran cysylltiadau trafnidiaeth yn ardal y Fenai.”

Yn y cyfamser, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Bont Britannia. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi mai “diogelwch pawb sydd bwysicaf yn y sefyllfa hon".

“Rydym yn gweithio ac yn cyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod y gwaith cynnal a chadw yn cael ei gyflawni mewn modd mor ddiogel a chyflym a phosibl er mwyn sicrhau bod unrhyw anghyfleustra yn cael ei gadw i’r lefel isaf posibl," meddai.

“Mae cynlluniau wrth gefn rhwng yr holl wasanaethau cyhoeddus yn eu lle er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymateb i unrhyw argyfyngau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn dilyn trafodaethau gyda Phriffyrdd y DU a'u harbenigwyr strwythurol, mae'r droedffordd dros y bont wedi cael ei hail-agor ar gyfer cerddwyr a beicwyr heb eu mowntio.

"Rhaid i bobl aros ar y llwybrau troed i gerddwyr a bydd niferoedd yn gyfyngedig.  Bydd swyddogion ar waith rhwng dydd Gwener, 21 Hydref a dydd Llun, 24 Hydref i reoli llif cerddwyr a bydd monitro yn cael ei roi ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth wrth symud ymlaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.