Caernarfon i herio Aberystwyth ar Yr Ofal

Wedi 10 rownd o gemau mae’r tabl wedi dechrau cymryd ei siâp gyda’r Seintiau Newydd yn arwain ar y copa, a’r newydd-ddyfodiaid, Airbus UK a Pontypridd yn eistedd ar waelod y gynghrair.
Bydd Caernarfon yn edrych i godi yn uwch yn y gynghrair yn erbyn Aberystwyth sydd yn wythfed yn y gynghrair.
Caernarfon (5ed) v Aberystwyth (8fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Caernarfon wedi cael dechrau digon boddhaol i’r tymor, ac ar ôl curo’r Fflint y penwythnos diwethaf mae tîm Huw Griffiths yn y 5ed safle gyda gêm wrth gefn.
Roedd hi’n fuddugoliaeth anferthol i Aberystwyth yn erbyn Hwlffordd nos Wener gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn camu i’r 8fed safle, dim ond triphwynt y tu ôl i Gaernarfon.
Dyw Caernarfon nac Aberystwyth heb gael gêm gyfartal yn y gynghrair y tymor yma, a dyw’r clwb o Geredigion heb gadw llechen lân yn eu 10 gêm hyd yma.
Tydi’r Cofis ond wedi colli un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 5, cyfartal 3), ac ar ôl ennill saith o’u wyth gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair bydd Caernarfon yn hynod o hyderus ar yr Oval nos Wener.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌❌✅✅
Aberystwyth: ✅❌✅❌✅