Protestiwr yn 'rhoi ei fraich ar dân' ar gwrt tenis cyn gêm olaf Roger Federer

Mae adroddiadau bod protestiwr wedi "rhoi ei fraich ar dân yn ddamweiniol" ar y cwrt tenis yn yr O2 yn Llundain ar drothwy gêm broffesiynol olaf Roger Federer.
Digwyddodd y brotest yn ystod sesiwn agoriadol yr ornest rhwng Stefanos Tsitsipas a Diego Schwartzman ar ddiwrnod cyntaf Cwpan Laver.
Ar ôl y set gyntaf, fe redodd y dyn ar y cwrt yn gwisgo crys-t oedd yn cynnwys y geiriau 'End UK Private Jets', gan danio tân a losgodd ei fraich am eiliad.
Mae Heddlu'r Met wedi cadarnhau fod y dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o dresmasu.
Darllenwch fwy yma.