Covid-19: Nifer yr achosion yn cynyddu am y tro cyntaf ers mwy na deufis
Mae nifer yr achosion o Covid-19 yng Nghymru wedi cynyddu am y tro cyntaf ers mwy na dau fis.
Mae'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu fod gan 1.31% o'r boblogaeth Covid-19 yn yr wythnos hyd at 14 Medi.
Mae hyn yn parhau i fod yn gymharol is na'r wythnos hyd at 6 Gorffennaf pan oedd amcangyfrif bod gan 6.4% o'r boblogaeth Covid-19.
Yn ystod yr wythnosau ers hynny, mae'r ganran wedi gostwng yn sylweddol tan i'r ffigyrau diweddaraf awgrymu ei fod ar gynnydd unwaith eto.
Mae'r achosion yn Lloegr hefyd wedi cynyddu am y tro cyntaf er deufis, ond maen nhw'n parhau i ostwng yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r nifer o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru yn aros yn sefydlog.
Yn yr wythnos hyd at 9 Medi, bu farw 23 o bobl lle'r oedd Covid-19 wedi ei nodi ar y dystysgrif farwolaeth.