Darganfod corff dynes ar dir Eglwys Cadeirlan Bangor

North Wales Live 22/09/2022
Cadeirlan

Mae corff dynes wedi ei ddarganfod ar dir yr Eglwys Gadeirlan ym Mangor.

Roedd presenoldeb yr heddlu i'w weld ger y Gadeirlan ddydd Iau, sydd wedi ei lleoli ger stryd fawr y ddinas. 

Mae'r ardal yn parhau ar gau tra bod ymholiadau yn parhau. 

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi "derbyn galwad am 10:10 fore Iau yn sgil adroddiadau fod corff dynes wedi ei ddarganfod ar dir Cadeirlan Bangor. 

"Mae ei theulu agos wedi cael gwybod ac y gred yw nad ydy'r amgylchiadau yn rai amheus ar hyn o bryd."

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.