Cyllideb fechan Llywodraeth y DU i gael ei chyhoeddi
Bydd cyllideb fechan yn cael ei chyhoeddi ddydd Gwener ac mae disgwyl i'r Canghellor Kwasi Kwarteng fanylu ar fesurau pellach i helpu gyda'r argyfwng costau byw.
Mae toriadau treth, rheolau llymach ynghylch credyd cynhwysol yn ogystal â chael lleoliadau treth-isel yn y DU ymysg y mesurau posib.
Y gred yw y gallai'r mesurau hyn gostio o leiaf £30bn.
Daw hyn wedi i Fanc Lloegr gyhoeddi fod cyfraddau llog wedi eu codi i 2.25%, sef y lefel uchaf ers mis Tachwedd 2008 ar adeg y dirwasgiad economaidd.
Dydd Iau, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn gwyrdroi'r cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol hefyd, gyda'r newid yn dod i rym o 6 Tachwedd, meddai’r Canghellor.
Roedd disgwyl i'r dreth gorfforaeth, sef y dreth sydd wedi ei seilio ar elw blynyddol mae cwmni yn ei wneud, gynyddu o 19% i 25% ym mis Ebrill 2023 o dan gynlluniau y cyn Brif Weinidog, Boris Johnson.
Ond mae disgwyl i'r prif weinidog Liz Truss gael gwared ar y newidiadau hyn.
Mae toriadau ar dreth incwm hefyd yn bosib gyda phobl ar hyn o bryd yn talu 20% ar unrhyw enillion rhwng £12,571 a £50,270.
Mae toriadau treth brys yn golygu, yn ôl rhai, y bydd angen i'r llywodraeth fenthyg mwy.
Bydd rhaid i'r pres yma, yn ogystal â llog, gael eu talu yn ôl gan drethdalwyr.
Mae disgwyl i gyllideb lawn gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Llun: Twitter / Kwasi Kwarteng