Cantores yn anfodlon gyda'r BBC am beidio darlledu ei chân am y Frenhiniaeth
Cantores yn anfodlon gyda'r BBC am beidio darlledu ei chân am y Frenhiniaeth
Mae'r gyfansoddwraig a'r gantores Lleuwen Steffan wedi lleisio ei hanfodlonrwydd gyda BBC Radio Cymru am beidio darlledu ei chân newydd am y Teulu Brenhinol yr wythnos hon.
Fe wnaeth Lleuwen rannu fideo o'r gân ar Instagram a Facebook yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II, a'r cyhoeddiad y bydd y Tywysog William yn derbyn teitl Tywysog Cymru.
Fe wnaeth Lleuwen yrru'r gân 'Rhyddid' at BBC Radio Cymru ac fe gafodd hi ateb yn dweud y byddan nhw'n "gweld beth yw'r sefyllfa cyn gynted bo modd."
Dywedodd Lleuwen nad oes yna "ddim byd yng ngeiriau'r gân sydd yn gas, dwi wedi bod yn onest iawn, dwi jest yn deud fedra i ddim galaru rywun dwi'm yn caru.
"Dyna sy'n ddychrynllyd deud y gwir achos mae o jest yn mynegi barn gwahanol i'r hyn oedd yn cael ei orfodi arnom ni a dyna y rheswm dwi'n dod â hi allan fel sengl."
Ychwanegodd Lleuwen mai BBC Radio Cymru ydy'r "unig orsaf genedlaethol i Gymry Cymraeg... a pan 'da chi'n clywad God Save The Queen arna fo a 'da chi ddim yn ca'l clywad rhywun yn dweud 'dwi methu galaru rywun dwi ddim yn caru am bo' fi'n sôn am y Queen', ma' 'na wbath hollol hurt am hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru eu bod nhw'n "chwarae traciau newydd yn barhaus. Dim ond yn ddiweddar iawn y derbyniwyd y gân. Bydd y gân hon yn cael ei hystyried fel pob cân newydd arall ar gyfer ein rhestrau chwarae at y dyfodol."
Llun: Lleuwen Steffan / Facebook