Newyddion S4C

Arestio dyn wedi marwolaeth menyw mewn gwrthdrawiad yn Nowlais

20/09/2022
Heddlu

Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad yn Nowlais, Merthyr Tudful.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y stryd fawr yn Nowlais am tua 17:50 ddydd Llun.

Roedd cerbyd MG ZS llwyd mewn gwrthdrawiad gyda cherddwr, oedd yn fenyw 52 oed o Bentrebach.

Er holl ymdrechion y gwasanaethau brys a'r cyhoedd, bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle.

Mae'r dyn 29 oed yn parhau yn y ddalfa ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd gyda lluniau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.