Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o geisio llofruddio dau heddwas yn Llundain

18/09/2022
Leicester Square / Wikimedia Commons

Mae dyn 24 oed wedi ei gyhuddo mewn cyswllt â thrywanu dau heddwas yn Llundain fore Gwener.

Mae Mohammed Rahman wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio a’r bwriad o achosi niwed difrifol.

Mae un o’r heddweision wedi derbyn anafiadau “gall beryglu bywyd” yn yr ymosodiad yn ardal Sgwâr Leicester am 06:00 fore Gwener.

Mae disgwyl i’r heddwas arall wella’n llwyr o’r anafiadau.

Fe fydd Rahman yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Wimbledon ddydd Llun.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.