Zelensky fydd ymwelydd rhyngwladol cyntaf Burnham fel Prif Weinidog

Burnham a Zelensky

Bydd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, yn ymweld â’r Deyrnas Unedig ddydd Llun, a fe felly fydd ymwelydd rhyngwladol cyntaf Andy Burnham ers iddo ddod yn Brif Weinidog.

Daw’r ymweliad wythnos ar ôl i Mr Burnham gymryd allweddi Rif 10 Downing Street, gyda’r Prif Weinidog yn dweud bod cefnogaeth y DU i Wcráin yn parhau’n “gadarn”.

Bydd y ddau arweinydd yn ymweld â chanolfan y llynges, lle bydd Mr Burnham yn gwneud cyhoeddiad am system ryfela electronig newydd o’r enw Stone Cloak.

Bydd Prydain yn rhoi’r hawl a’r wybodaeth dechnegol i Wcráin gynhyrchu’r system ei hun ar raddfa fawr.

Dyfais tua maint tabled yw Stone Cloak, sy’n cael ei gosod ar dronau er mwyn tarfu ar systemau Rwsia a’u hatal rhag darganfod y dronau.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi rhoi miloedd o’r dyfeisiau i luoedd Wcráin i gefnogi eu gweithrediadau dronau.

“Mae Prydain yn sefyll ochr yn ochr ag Wcráin, ac mae ein cefnogaeth yn parhau’n gadarn,” meddai Mr Burnham.

“Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth gan Rwsia ynghylch ein penderfyniad, ac ni fyddwn yn ildio hyd nes i ni sicrhau heddwch hirhoedlog a chyfiawn i Wcráin.

“Mae Stone Cloak yn cynrychioli’r gorau o arloesedd Prydain ac mae wedi profi ei werth ar y rheng flaen.

“Bydd yn hanfodol wrth ddiogelu ein dwy wlad.”

Ymarfer Sea Breeze

Yn dilyn ei defnyddio yn Wcráin, mae disgwyl i dechnoleg Stone Cloak gael ei chynnwys yn y genhedlaeth nesaf o arfau ymosod pellter hir y DU.

Mae hynny’n cynnwys Project Brakestop, menter Llywodraeth y DU i ddatblygu taflegrau mordeithio rhatach.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y ddau arweinydd hefyd yn cyfarfod â mwy na 200 o aelodau o luoedd arfog Wcráin.

Maen nhw wedi treulio’r tair wythnos ddiwethaf yn y DU yn cymryd rhan yn Ymarfer Sea Breeze.

Nod yr ymarfer yw cryfhau eu gallu i ymladd a’u gwaith i ddarganfod a chael gwared â ffrwydron môr yn y Môr Du.

Siaradodd Mr Burnham â Mr Zelensky yn un o’i alwadau cyntaf ar ôl dod yn Brif Weinidog ddydd Llun diwethaf, gan ei wahodd i ymweld “ar y cyfle cyntaf”.

Roedd Mr Burnham wedi addo parhau â chefnogaeth ei ragflaenydd, Syr Keir Starmer, i Wcráin cyn iddo gyrraedd Downing Street.

Ymwelodd Syr Keir â Kyiv ar ei ddiwrnod llawn olaf fel arweinydd y Blaid Lafur.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.