Zelensky yn croesawu ‘canlyniad go iawn’ wrth drafod â Rwsia

Zelensky

Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi croesawu cytundeb i gyfnewid carcharorion â Rwsia fel “canlyniad go iawn”.

Dywedodd cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Steve Witkoff a Jared Kushner, eu bod wedi cynnal trafodaethau “dwys iawn” â Rwsia a’i harlywydd Vladimir Putin yn ystod y dyddiau diwethaf. 

Ychwanegodd y ddau eu bod nhw’n gweithio’n galed i gyflawni nod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, o ddod â’r rhyfel i ben.

Roedd y tri dyn yn siarad â’r cyfryngau yn Iwerddon nos Iau.

Roedden nhw wedi bod mewn trafodaethau am bron i awr ym Maes Awyr Baldonnel, ar gyrion Dulyn, gyda mesurau diogelwch llym ar waith.

Dywedodd Mr Zelensky y byddai “mwy o garcharorion rhyfel nag erioed yn cael eu cyfnewid”, gan ychwanegu: “Bydd ein milwyr yn dod adref.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un o’n trafodwyr,” meddai.

“Mae hwn yn ganlyniad go iawn. Mae’n bwysig iawn ac yn llwyddiant i’r teuluoedd ac i bob un ohonom y bydd pobl yn dod adref at eu teuluoedd.”.

Roedd hefyd yn croesawu’r cynnydd tuag at sicrhau y bydd cynrychiolwyr Ewropeaidd yn rhan o’r trafodaethau yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd: “Bydd ganddyn nhw lais. Mae hyn yn bwysig i ni oherwydd bod y rhyfel yn Ewrop.”

Disgrifiodd Mr Kushner drafodaethau “dwys iawn” gyda Rwsia yn Abu Dhabi, gyda chyfarfodydd yn para oriau lawer yn ystod y nos ac y bore canlynol.

Dywedodd hefyd eu bod wedi cael cyfarfod “manwl a chynhyrchiol iawn” â Mr Putin a’i dîm trafod.

“Roedden ni’n gallu cwblhau’r cytundeb ar gyfnewid carcharorion rhyfel, sy’n beth pwysig iawn,” meddai.

“Mae’r rhyfel hwn yn effeithio ar lawer o bobl, ac rwy’n credu y bydd dychwelyd y miloedd hyn o bobl at eu teuluoedd yn garreg filltir braf iawn,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.