'Dyn tebyg iawn i Marmite': Teulu cerddwr a fu farw mewn gwrthdrawiad yn rhoi teyrnged iddo
Mae teulu cerddwr a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhonysguboriauyr wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Craig Faulkner o ardal Aberdâr wedi’r gwrthdrawiad ar yr A4119 tua 16.45, ddydd Mercher 4 Tachwedd 2026.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd teulu teulu Craig ei fod yn “byw ei fywyd i’r eithaf, bob amser ar ryw fath o siwrne wallgof, gyda throeon da a drwg”.
“Byddai rhai’n dweud ei fod yn boen y rhan fwyaf o’r amser, ond ar y llaw arall roedd ganddo galon aur hefyd a byddai’n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un,” medden nhw.
“Roedd bob amser yn dweud bod ei fywyd yn fendith. Roedd Craig yn debyg iawn i Marmite - roeddech chi naill ai’n ei garu neu’n ei gasáu.
“Roedd yn cael ei garu a’i drysori’n fawr iawn.
“Roedd bob amser yn chwarae’r ffŵl ac eisiau gwneud i bobl chwerthin. Os nad gyda geiriau, byddai’n gwneud rhyw lais gwirion neu’n tynnu rhyw wyneb gwirion i wneud i chi wenu.
“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb ddaeth i helpu Craig ac a geisiodd ei gynorthwyo. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich ymdrechion.
“Peidiwch â chrio am ei fod drosodd, gwenwch am ei fod wedi digwydd. Gorffwys yn dawel yno, Craig.”