Trafferthion technolegol Microsoft yn effeithio ar heddluoedd yng Nghymru

Microsoft

Mae heddluoedd yng Nghymru ymysg y sefydliadau sydd wedi eu heffeithio wrth i Microsoft geisio datrys trafferthion technolegol fyd-eang ddydd Gwener.

Mae gwasanaethau gan gynnwys Teams, Outlook a’r meddalwedd AI Copilot wedi eu heffeithio gan “broblemau cysylltu”.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedden nhw'n gallu derbyn rhai negeseuon.

"Mae’r rhain wedi effeithio ar ein gallu i dderbyn adroddiadau ar-lein drwy’r wefan, yn ogystal â negeseuon drwy gyfeiriad e-bost cyffredinol ein canolfan gyswllt," medden nhw.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw hefyd yn wynebu problemau technolegol wrth dderbyn adroddiadau drwy eu gwefan, ac roedden nhw'n annog pobl i ffonio yn lle.

Dywedodd y cwmni o’r Unol Daleithiau nad digwyddiad seiberddiogelwch sydd wedi achosi’r broblem.

Mae defnyddwyr mewn 74 o wledydd wedi’u heffeithio, ac mae’r broblem wedi para am fwy nag 11 awr.

Dywedodd Microsoft nad yw ei ymdrechion i ddatrys y broblem wedi “gweithio yn ôl y disgwyl”.

Mae mwy na 430 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau Microsoft 365, ac mae’r cewri technoleg OpenAI ac Anthropic wedi adrodd am broblemau o ganlyniad.

Am 5.00 fore ddydd Gwener dywedodd Microsoft ei fod yn dal i weithio ar ffyrdd o ddatrys y broblem.

Dywedodd y cwmni ei fod yn “gweithio ar sawl trywydd i leihau’r effaith” ac i sicrhau bod gwasanaethau’n “gweithio’n iawn” eto.

Dywedodd fod yn gweld gwasanaethau’n “gwella’n rhannol” mewn rhanbarthau lle mae wedi ceisio datrys y problemau. Ond nid oedd y camau hyn yn “arwain at welliant parhaus”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.