Ystâd hanesyddol Glynllifon ar werth am y tro cyntaf ers canrifoedd
Mae ystâd hanesyddol rhwng Caernarfon a Phen Llŷn ar werth am y tro cyntaf mewn canrifoedd.
Mae saith rhan i werthiant ystâd Glynllifon, sydd wedi ymddangos ar wefan y cwmni gwerthu eiddo Carter Jonas yn ddiweddar.
Nid yw plasty hanesyddol Glynllifon, sydd wedi bod yn nwylo sawl perchennog gwahanol dros y blynyddoedd, yn rhan o'r gwerthiant.
Ymysg y talpiau o dir sydd ar werth, mae tir Bodhyfryd, tir Tyn Llan yn Llandwrog, bron i 50 acer a 44 acer o dir i'r de o a'r gogledd o Landwrog, 137 acer ger Dinas Dinlle, tir ger Clynnog Fawr a Phontllyfni, a ffermydd Maes Mawr a Chaerloda.
Mae tir Tyn Llan yn mesur 180 o aceri gydag amcan bris o £2,240,000.
Mae fferm ar dir yr ystâd ym Mhontllyfni ar werth am amcan bris o £4,000,000.
Ystâd Teulu Wynn
Mae gwefan yr arwerthwyr yn disgrifio'r gwerthiant fel "un o'r ystadau enwocaf yng Ngogledd Cymru, mae Ystâd Glynllifon ar werth am y tro cyntaf ers 1700 pan gafodd ei chaffael gan deulu Wynn.
"Wedi'i lleoli rhwng Caernarfon a Phenrhyn Llŷn, mae'r Ystâd yn cynnwys tir fferm cynhyrchiol yn bennaf a daliadau amaethyddol ar osod mewn lleoliad arfordirol.
"Yn ogystal, mae yna amrywiaeth o gyfleoedd hela a mwynau ar draws yr Ystâd sydd yn ymestyn i gyd i tua 901 erw.
"Cynigir Ystâd Glynllifon i'w gwerthu yn ei chyfanrwydd.
"Mae nifer o fentrau saethu ar osod ar yr ystâd sy'n cynnig y cyfle i unrhyw berchennog newydd fwynhau saethu'n bersonol neu elwa o incwm amrywiol trwy saethu ar osod.
"Mae'r Ystâd wedi cadw ystod eang o hawliau mwynau ar draws y rhanbarth a all unwaith eto gynnig ffynhonnell incwm amrywiol bosibl i unrhyw berchennog newydd."