Ymgyrch i wneud yr Wyddfa’n ‘ddi-blastig’ yn methu
Mae ymgyrch a oedd yn ceisio sicrhau y bydd yr Wyddfa yn fynydd "ddi-blastig" wedi methu.
Cafodd cynllun 'Yr Wyddfa Ddi-blastig' ei lansio ym mis Hydref 2022 er mwyn mynd i'r afael â'r broblem sbwriel ar fynydd uchaf Cymru.
Ond mae astudiaeth newydd o effaith y cynllun peilot dwy flynedd wedi dod i'r casgliad nad oedd wedi llwyddo i gyflawni'r statws 'di-blastig' yn llawn.
Mae’r Wyddfa yn denu tua 600,000 o gerddwyr bob blwyddyn, gyda 120,000 o ymwelwyr yn mynd ar y rheilffordd i fyny i’r copa.
Nod Parc Cenedlaethol Eryri oedd gwneud Yr Wyddfa y mynydd cyntaf yn y byd i gyflawni statws 'di-blastig' trwy ddileu sbwriel plastig untro a llygredd.
Yn ystod y cynllun, bu'r awdurdod yn cydweithio gyda busnesau lleol a’r gymuned ehangach er mwyn ceisio gwireddu'r nod.
Roedd eu hymdrechion yn cynnwys cynllun busnesau di-blastig, cael gwared ar finiau o feysydd parcio i annog ethos 'pacio’r bin', gosod gorsafoedd ail-lenwi dŵr o amgylch y mynydd, ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth firaol fel y 'Bananacam'.
Erbyn diwedd y prosiect, nid oedd Yr Wyddfa yn 'ddi-blastig' eto gan fod tua 1.5 tunnell o sbwriel yn dal i gael ei gasglu ar y mynydd yn 2025.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod maint y broblem sbwriel ar y mynydd y tu hwnt i'w cyrraedd ar hyn o bryd.
"Er gwaethaf ein holl ymdrechion, ni lwyddodd Yr Wyddfa i gyflawni statws 'di-blastig' yn llawn erbyn diwedd y cynllun peilot," meddai'r adroddiad.
"Rhaid inni gydnabod bod maint y broblem sbwriel yn fwy na’n hamcangyfrifon cychwynnol, a bod y newid meddylfryd ar y cyd sydd ei angen i ddileu gweddillion y tu hwnt i’n cyrraedd.
"Yn gynnar, sylweddolon ni fod ein mesuriadau sylfaenol o chwith - roedd faint o sbwriel ar y mynydd tua teirgwaith yr hyn a gofnodwyd yn swyddogol o’r blaen.
"Dysgodd hyn wers bwysig inni: dylen ni fod wedi sefydlu system gasglu a monitro data safonol ar ddechrau’r prosiect (yn hytrach na blwyddyn i mewn iddo).
"Gyda data sylfaenol gwell, gallem fod wedi gosod targedau mwy realistig ac olrhain cynnydd yn fwy trylwyr."
Er gwaethaf yr heriau, mae'r awdurdod yn dweud eu bod yn bwriadu parhau â’r gwaith a’i ehangu.
"Wrth symud ymlaen, bydd monitro cyson yn hanfodol i fesur effaith ymyriadau ac addasu strategaethau yn unol â hynny," ychwanegodd.