10 ffermwr o Gymru yn rhan o gôr buddugol ar Britain's Got Talent

Aled Wyn Davies

Roedd 10 ffermwr o Gymru yn rhan o gôr buddugol ar gyfres Britain's Got Talent nos Sadwrn. 

Fe gafodd yr Hawkstone Farmers, sydd yn gôr o 32 o ffermwyr, y Botwm Aur (Golden Buzzer) gan un o'r beirniaid, Amanda Holden.

Mae hyn yn golygu eu bod yn mynd yn syth drwyddo i'r rowndiau cynderfynol yn y gystadleuaeth.

Mae'r côr yn cynnwys ffermwyr ar draws y DU, sydd ag angerdd am amaeth yn ogystal â chanu a pherfformio.

Yn eu plith mae'r ffermwr a'r tenor adnabyddus Aled Wyn Davies o Bowys.

Er ei fod wedi perfformio ar draws 47 o wledydd, fe ddisgrifiodd y profiad o berfformio ar Britain's Got Talent fel un "swreal". 

Roedd Owain Fisher, ffermwyr 35 oed o bentref Meidrim, Eirion William Davies, ffermwyr pedwaredd genhedlaeth o Lanelli a Joe Shewry, ffermwr 56 oed o Bentywyn i gyd yn rhan o'r côr hefyd. 

Mae Aled Griffiths o Gwmllinau hefyd yn rhan o'r côr, ac mae'n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.

Mae Rosie Jones yn rhedeg fferm 600 erw gyda'i gŵr Steffan yn Nolanog ym Mhowys, ac yn gyn actor proffesiynol yn y West End. 

Yn 35 oed, mae Will Rogers o Lanandras ym Mhowys yn rhedeg fferm 650 erw, ac hefyd yn aelod o'r côr.

Yn 74 oed, Hugh Thomas o Drewyddel yn Sir Benfro yw aelod hynaf y côr.

Fe ddaeth y côr at ei gilydd ar ôl ymgyrch y llynedd oedd yn chwilio am ffermwyr oedd yn gallu canu gan y cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson.

Roedd tua 600 wedi ymgeisio gyda thua 35 yn cael eu dewis. 

Wrth gael eu holi gan Amanda Holden am y rhesymau y tu ôl i'r côr, dywedodd un o'r aelodau: "Rydym ni'n gweithio ar ben ein hunain bob dydd, weithiau 16/17 awr y dydd, ac mae hyn wedi dod â ni at ein gilydd. 

"Mae gennym ni un peth sydd yn ein huno, sef ffermio. Rydym ni'n caru'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond mae'n gallu bod yn ofnadwy o anodd, ofnadwy o unig ac ynysig felly mae'n golygu popeth i ni i allu gwneud hyn gyda'n gilydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.