Poliamori: Bywyd 'llawn cariad' menyw o Sir Benfro
"Sa'i byth moyn peintio poliamori fel y perfect way o fyw achos dyw e ddim. Fi jest di ffiguro mas 'na beth sy’n gweithio gore i fi.”
Mae Naomi Allsworth yn byw bywyd fel person poliamori. Iddi hi “cael yr hawl i gael mwy nag un perthynas hir dymor, nid jest ffling,” yw poliamori.
“O’n i yn gwybod o oedran weddol ifanc bod fi yn lico merched ac dynion.
"Ond nes i byth weld menywod mewn ffurf romantic tan bo fi lot yn hŷn,” meddai ar y rhaglen ‘Cariad Heb Ffiniau - Poliamori a Fi’.
Mae’r rhaglen ar S4C yn rhoi cip o fywyd Naomi a’i phartner Chris, gyda’u mab, wrth iddi fyw ei bywyd gyda mwy nag un cariad.
Mae Chris yn cydnabod ei fod yn heriol pan ddechreuodd Naomi weld pobl eraill ar y dechrau.
“Tro cynta odd e’n sioc. Odd e’n anodd i gwybod bod hi’n mynd i weld partner newydd, bod hi mynd i aros draw efo nhw, ie mae hwnna yn sialens.”
Ond mae’n dweud hefyd bod partneriaid newydd yn gallu cynnig “rhywbeth hollol wahanol i be ti’n gallu rhoi iddyn nhw, â’r ffaith bod nhw gallu mynd trwy hwnna a bod yn hapus i’n gilydd, mae e’n rili brydferth.”
Dydy Chris ddim yn genfigennus chwaith meddai, ac mae’n dweud ei fod yn dod yn ffrind gyda'r person arall.
Yn ôl Naomi mae’r partneriaid yn ei bywyd yn cynnig pethau gwahanol iddi.
“Mae Chris yn rhoi teimlad o cartref ac teimlo yn rili cyfforddus ac hapusrwydd. Ac adegau calm iawn.
"Ond gall partner newydd dod mewn ac elfen gwbl wahanol i hynny. Ac mae hwnna yn bwysig i gwybod bod fi ddim yn edrych ar bartner newydd i lenwi twll sydd 'da fi mewn perthynas arall. Dyw hwnna ddim o gwbl beth i fi’n neud.”
'Perthynas mam a dad'
Ei blaenoriaeth bob tro yw ei mab. Mae'n dweud os nad yw Chris a'i mab yn "dod 'mlaen da partner, that’s it wedyn, mae’n bennu achos mae’n rili bwysig bod teulu fi yn dod ymlaen gyda partner fi.”
Mae’n cydnabod bod sawl her magu plentyn tra ei bod hi mewn perthynas agored.
“Ar hyn o bryd mae’n oce. Ma fe rhy ifanc i ddeall bob agwedd o perthynas fi. A s'dim angen iddo fe deall bob agwedd o perthynas fi. Jest fel dwi ddim yn deall bob agwedd o perthynas mam a dad.”
Yn y rhaglen rydyn ni yn dod i wybod am berthnasau eraill Naomi gan gynnwys gyda Matt. Mae o wedi symud i Lundain i dreulio amser gyda hi.
Ond am ei bod hi ffwrdd am fisoedd ar adegau gyda’i gwaith does dim llawer o gyfle iddyn nhw weld ei gilydd a daw eu perthynas i ben.
Yn ei bywyd bob dydd mae’n dysgu pobl sut i oroesi yn y gwyllt.
Mae delio gyda pherthnasau yn chwalu yn anodd meddai.
“Na beth yw reality bywyd non-monogamous. Ti’n delio efo rili tricky emotions o hyd. Mae pobl yn gweud, ‘Beth yw’r pwynt, pam ti moen rhoi dy hun trwy hwnna?’. Ond mae’r bits da mor dda, mae o werth e.”
Mae’n dweud bod ei phrofiadau o’r gorffennol wedi llywio ei bywyd. Yn 15 oed, fe gafodd ei threisio.
Ar ôl hynny meddai roedd hi ofn sut y byddai'r hyn ddigwyddodd iddi yn effeithio ar y ffordd y byddai hi yn ymddwyn mewn perthynas.
“Nes i probably…ffordd arall i ran fwyaf o bobl. Es i mewn i perthnasau lot mwy cloi er mwyn dangos i fi fy hun bo fi yn iawn, bo' fi yn gallu caru a bo fi yn gallu bod yn gariadus ac intimate efo pobl a ti’n saff ac mae’n iawn achos odd hwnna yn bwysig i fi.
"Odd cariad a cael bywyd passionate yn rili bwysig i fi o oedran ifanc ac o’n i byth moyn rhywbeth fel hynny i stopio fi rhag byw bywyd fel ni.”
Cefnogaeth
Mae ganddi gefnogaeth ffrindiau sydd yn deall sut mae hi yn teimlo am eu bod nhw hefyd yn byw bywydau sydd ddim yn unweddog ('monogamous').
Mae hynny meddai yn bwysig am fod bywyd poliamori yn gallu bod yn "rili unig”.
Erbyn diwedd y rhaglen mae’n amlwg bod Chris a Naomi erbyn hyn eisiau rhywbeth gwahanol i’r dyfodol. Mae Chris bellach wedi penderfynu ei fod eisiau bod mewn perthynas gyda dim ond un person. Ond dydy o ddim yn difaru bod mewn perthynas poliamori.
“Dyw e byth di ffeili. Nethon ni cael amser gore am y blynyddoedd, na, ond mynd yn bellach, ni di dewis bod e ddim y peth gore i gadw fynd.”
Mae’r penderfyniad yn anodd i Naomi sydd yn dweud nad oedd "y drws byth ar gau i Chris”.
I Naomi yr hyn mae eisiau yw “person neu mwy nag un person i rannu bywyd efo mewn ffordd hapus a cariadus. Dwi jest moen bywyd llawn cariad ac dwi'n meddwl 'na beth mae pob un moen.”
'Cariad Heb Ffiniau: Poliamori a Fi', Nos Fawrth 24 Mawrth ar S4C am 21:00