'Iaith sarhaus yn hynod o siomedig' am ddatblygiad llety Cymraeg Prifysgol Caerdydd
Mae'r defnydd o 'iaith sarhaus' wrth drafod datblygiad llety Cymraeg Prifysgol Caerdydd mewn erthygl ym mhapur newydd y brifysgol yn 'hynod o siomedig' yn ôl Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.
Roedd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd wedi cyhoeddi ym mis Rhagfyr y llynedd y bydd holl fflatiau myfyrwyr Cymraeg Llys Senghennydd, yn cael eu lleoli mewn un bloc ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Ar hyn o bryd, mae'r holl fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac yn dymuno rhannu llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill yn Llys Senghennydd ar wasgar dros dri bloc gwahanol.
Ond o'r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen, fe fydd yr holl fflatiau wedi eu lleoli yn yr un bloc.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd eu bod yn "hynod o siomedig" o weld erthygl ym mhapur newydd myfyrwyr 'Gair Rhydd' yn "cam-ddehongli'r sefyllfa".
Yn rhifyn mis Chwefror o'r papur newydd, mae darn barn gyda phennawd sydd yn cymharu Neuadd Senghennydd â "getos".
Mae'r cyfleoedd yn sgil y datblygiad hefyd yn cael ei nodi yn yr erthygl, ond mae hefyd yn codi pryderon y gallai'r datblygiad ynysu myfyrwyr.
Wrth siarad am y datblygiad, mae'r erthygl yn dweud: "A fydd hyn yn creu hwb diwylliedig ar gyfer myfyrwyr Cymraeg neu geto ar wahân?".
Mae'r erthygl hefyd yn dweud: "Drwy wahanu siaradwyr Cymraeg, mae gan y newidiadau i Senghennydd y potensial i effeithio ar ddatblygiad cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Nid yn unig oes gan y newidiadau y potensial i effeithio yn negyddol ar drigolion Llys Senghennydd, ond fe all myfyrwyr allanol labelu'r llety yma fel rhai 'Cymraeg yn unig', gan greu rhaniad yn hytrach na hwb."
'Sarhaus ac enllibus'
Dywedodd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn eu datganiad: "Nid yn unig y mae’r defnydd o’r term “ghetto” i ddisgrifio’r neuadd a ymgyrchwyd drosti ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn sarhaus ac enllibus ond yn anwybyddu’r hanes sy’n perthyn i’r term.
"Tarddiad y term “ghetto” yw disgrifiad o gymunedau a orfodwyd i fyw mewn amgylchiadau caeedig, wedi’u hamgylchynu gan waliau ac wedi’u gorfodi’n gyfreithiol.
Ychwanegodd UMCC: "Mae defnyddio term o’r fath yn ddi-hid nid yn unig yn tanbrisio hanes y term, ond hefyd yn anwybyddu ac yn dileu profiadau ein myfyrwyr Cymraeg sydd wedi ymgyrchu ers tro am floc Cymraeg penodol.
"Trwy brofiad byw pwyllgor UMCC a’i aelodau y daeth y polisi hwn i fodolaeth, ac felly mae’n siomedig gweld iaith o’r fath yn cael ei ddefnyddio i ddiystyru ein hymgyrch barhaus dros hawliau’r Gymraeg."
Mewn ymateb, fe ddywedodd Gair Rhydd mewn datganiad eu bod yn ymwybodol o ddatganiad gan UMCC yn ymwneud â'r erthygl.
"Nid yw'r erthygl wedi torri unrhyw un o'r rheolau sy'n cael eu nodi gan Gôd Cyfryngau Undeb Myfyrwyr Caerdydd a'r awdurdodau perthnasol yn yr Undeb, ac rydym yn sefyll dros hawliau ein haelodau i ysgrifennu erthyglau dylanwadol ac ar adegau, dadleuol," meddai'r papur newydd.
'Anghytuno yn bendant'
Ychwanegodd Gair Rhydd eu bod yn cydnabod fod yr ymgyrch i greu llety Cymraeg yn Senghennydd yn "emosiynol" i nifer.
Ond fe ddywedodd y papur newydd eu bod yn "anghytuno yn bendant fod yr erthygl neu'r newyddiaduraeth tu ôl iddi yn sarhaus.
"Mae'n annonest i gamgynrychioli geiriau'r erthygl fel sydd wedi cael ei wneud. Ni chafodd brawddegau fel 'geto' neu 'ar wahân' eu defnyddio mewn ffordd ddisgrifiadol, ond yn hytrach mewn ffordd rethregol," meddai'r Gair Rhydd.
"Mae'r term 'Senghetto' yn adnabyddus i nifer o fyfyrwyr ar y campws, gan gynnwys trigolion presennol a'r gorffennol, i ddisgrifio'r amodau byw gwael sy'n cael eu darparu, ac nid yw hyn yn unrhywbeth i wneud â'r bobl sy'n byw yno."
'Ymateb amddiffynnol'
Dywed UMCC nad oedd cyhoeddi'r datganiad yn "benderfyniad hawdd" a hynny wedi cyfarfod i drafod eu pryderon â'r myfyrwyr sy'n gyfrifol am Gair Rhydd.
"Fodd bynnag, cawsom ein siomi gydag ymateb amddiffynnol, diffyg atebolrwydd a pharodrwydd i gyfaddawdu dros sgwrs adeiladol," meddai UMCC.
Ychwanegodd Gair Rhydd eu bod yn "siomedig fod UMCC wedi camgynrychioli'r brawddegau hyn i bortreadu'r erthygl fel ymosodiad ar yr iaith Gymraeg, yn enwedig o ystyried fod yr erthygl yn gorffen mewn cymeradwyaeth gadarnhaol o'r newidiadau, rhywbeth sydd ddim yn cael ei nodi gan y rhai sy'n ceisio ei bortreadu fel ymosodiad."