Gwasanaethau brys wedi diffodd tân sylweddol yng Nghaernarfon
Gwasanaethau brys wedi diffodd tân sylweddol yng Nghaernarfon
Ar ôl i'r gwasanaethau brys ymateb i dân sylweddol mewn adeilad yng Nghaernarfon nos Wener, mae'r tân bellach wedi ei ddiffodd.
Roedd sawl fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos tân yn llosgi mewn adeilad dros ffordd i Dafarn y Porth (Wetherspoons) ar Stryd y Porth Mawr yn y dref nos Wener.
Mae'r fideos yn cynnwys clipiau o fflamau'n codi o flaen yr adeilad.
Nid oes adroddiadau hyd yma fod neb wedi eu hanafu.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu'r Gogledd am ragor o wybodaeth.

