Cymru Premier JD: Y Bala yn herio Hwlffordd

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Y Bala

Pedair rownd gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, ac mae’r frwydr am safleoedd yn y gemau ail gyfle yn poethi.

Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu pumed bencampwriaeth yn olynol, ac mae Cei Connah wedi hawlio’r ail safle, ac felly bydd y ddau glwb yn cynrychioli Cymru yn Ewrop dros yr haf.

Fis nesaf, bydd Caernarfon a’r Fflint yn cystadlu am y trydydd tocyn i Ewrop, a hynny yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD, ac yna bydd y pedwerydd safle Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle.

I lawr yn y Chwech Isaf a dim ond pwynt sy’n gwahanu Hwlffordd a Llansawel yn y ras am y 7fed safle, tra bod angen buddugoliaeth ar Y Bala os am geisio dringo allan o safleoedd y cwymp.

Y Barri (6ed) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Barri a Chaernarfon yn hafal ar bwyntiau ar waelod y Chwech Uchaf, gyda record y ddau glwb yr un fath (ennill 10, cyfartal 9, colli 9).

Ac mae’r record benben wedi bod yn hafal eleni hefyd gyda Chaernarfon yn ennill unwaith, Y Barri’n ennill unwaith, a’r ornest arall yn gorffen yn gyfartal.

Y trydydd safle yw’r nod i’r ddau dîm yma, ond ar ôl ennill dim ond un o’u saith gêm gynghrair yn 2026 bydd angen i’r Cofis godi’r safon.

Roedd Y Barri wedi ennill pedair gêm yn olynol, a hynny heb ildio gôl cyn eu colled ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn diwethaf.

Bydd Y Barri’n gobeithio ennill y gemau ail gyfle er mwyn chwarae’n Ewrop am y tro cyntaf ers chwe blynedd, tra bydd Caernarfon yn ysu i osgoi’r gemau ail gyfle drwy ennill Cwpan Cymru.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ❌✅✅✅❌
Caernarfon: ͏➖❌❌✅❌

Cei Connah (2il) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Yn nhymor cyntaf John Disney wrth y llyw, mae Cei Connah wedi sicrhau’r ail safle gan gadarnhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.

Mae’r Nomadiaid wedi chwarae’n gyson ar y llwyfan Ewropeaidd yn y degawd diwethaf, ond ar ôl tymor o seibiant ar ôl gorffen yn 8fed llynedd, bydd selogion Cei Connah yn paratoi am antur arall yn Ewrop eleni.

Cei Connah wedi cryfhau’n sylweddol felly, ond mae Pen-y-bont yn mynd i’r cyfeiriad arall gyda’r Gleision wedi ennill dim ond un o’u 12 gêm ddiwethaf (vs Llanelli).

Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (vs Bae Colwyn), ac ar ôl colli yn erbyn YSN ddydd Sadwrn mae tîm Rhys Griffiths wedi syrthio o’r tri uchaf am y tro cyntaf ers mis Awst.

Mae Cei Connah wedi cadw tair llechen lân yn erbyn Pen-y-bont y tymor hwn, gan ennill y ddwy ornest yn rhan gynta’r tymor cyn y gêm ddi-sgôr yn Stadiwm Dragonbet fis diwethaf.

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ➖➖❌❌✅

Pen-y-bont: ❌➖❌❌❌

Llansawel (8fed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd Llansawel yn llawn hyder gan i’r Cochion golli dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf (ennill 6, cyfartal 2), a dyw tîm Andy Dyer bellach m’ond pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle.

Mae Thomas Walters yn mwynhau tymor da i Lansawel, ac o glybiau’r Chwech Isaf does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau nac ymosodwr y Cochion (sgorio 11, creu 9).

Y Fflint a’r Seintiau Newydd yw’r unig ddau glwb sydd heb golli gêm gynghrair ers yr hollt, ac mae tîm Lee Fowler wedi agor bwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a’r Bala yn safleoedd y cwymp.

Bydd Y Fflint yn dal i anelu am y 7fed safle, ond targed mawr y Sidanwyr bydd ceisio curo Caernarfon yn rownd derfynol Cwpan Cymru er mwyn sicrhau eu lle’n Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Mae gan Y Fflint record gryf yn erbyn Llansawel gan nad yw’r Sidanwyr wedi colli dim un o’u saith gornest yn erbyn y Cochion (ennill 4, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar: 

Llansawel: ͏❌➖✅✅✅
Y Fflint: ✅➖➖✅➖

Y Bala (11eg) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:00 (Yn fyw arlein)

Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.

Ond ar ôl 12 mlynedd yn y Chwech Uchaf, mae’r Bala wedi methu’r nod eleni ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio i’r ail haen ar ôl ennill dim ond dwy o’u 19 gêm gynghrair ddiwethaf.

Dyw’r Bala m’ond wedi ennill unwaith ers mis Tachwedd, a byddai colled arall ddydd Sadwrn yn gadael Hogiau’r Llyn mewn sefyllfa anobeithiol.

Hwlffordd sy’n parhau i arwain y pac yn y Chwech Isaf ar ôl ennill pump o’u chwe gêm gynghrair ers yr hollt.

Mae Hwlffordd wedi cadw saith llechen lân yn eu naw gêm ddiwethaf, ac ar ôl ennill y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf, bydd yr Adar Gleision yn anelu i ail-adrodd y gamp eleni.

Mae Hwlffordd eisoes wedi curo’r Bala deirgwaith y tymor hwn, a dyw tîm Tony Pennock heb golli yn eu saith gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala, gan gadw chwe llechen lân yn y gemau rheiny.

Mae Corey Shephard wedi sgorio tair gôl mewn tair gêm i’r Adar Gleision yn erbyn Y Bala y tymor hwn, yn cynnwys gôl ryfeddol o’r cylch canol ar Faes Tegid ym mis Rhagfyr.

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ➖❌❌➖➖
Hwlffordd: ✅✅✅❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.