Trump yn dweud ei fod yn ystyried arafu'r rhyfel yn Iran
Mae'r Arlywydd Trump wedi dweud ei fod yn ystyried arafu'r gweithredoedd milwrol yn erbyn Iran.
Mewn datganiad ddydd Gwener, fe ddywedodd Arlywydd UDA: "Rydym ni'n dod yn agos iawn bellach i gwrdd â'n hamcanion wrth i ni ystyried arafu ein hymdrechion milwrol yn y Dwyrain Canol mewn perthynas â Chyfundrefn Derfysgol Iran."
Wrth gyfeirio at Gulfor Hormuz, ychwanegodd Trump bod angen iddo gael "ei amddiffyn a'i blismona gan Genhedloedd eraill sy'n ei ddefnyddio - nid yw America yn ei ddefnyddio."
Mae Iran wedi cau'r culfor yn sgil y rhyfel rhwng y wlad ac America ac Israel.
Culfor Hormuz yw un o brif lwybrau masnach strategol y byd ac mae'n hanfodol i ddosbarthu olew.
Dywedodd Trysorlys America y bydd yn codi sancsiynau dros dro ar olew Iran sydd ar y môr ar hyn o bryd, gan ganiatáu iddo gael ei werthu i'r rhan fwyaf o wledydd er mwyn cadw prisiau olew i lawr.
Dros nos, fe gafodd ymosodiadau newydd eu lansio gan Israel ar Tehran a Beirut.
Mae Kuwait a Saudi Arabia hefyd wedi adrodd am ymosodiadau taflegrau neu ddronau dros nos.
