Caint: Nifer yr achosion o lid yr ymennydd yn codi i 34
Mae nifer yr achosion o lid yr ymennydd sydd yn gysylltiedig â chlwstwr o achosion yng Nghaint, de Lloegr, bellach wedi codi i 34.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ddydd Sadwrn bod 23 o achosion wedi eu cadarhau, gyda 11 achos arall yn "parhau o dan ymchwiliad".
Daw'r ffigyrau diweddaraf wrth i fwy na 400 o bobl ymgynnull y tu allan i glinig campws Prifysgol Caint am frechiadau llid yr ymennydd ar ddechrau'r penwythnos.
Dywedodd GIG Caint a Medway fod 5,794 o frechlynnau wedi cael eu rhoi, a 11,010 o wrthfiotigau wedi cael eu dosbarthu, yng Nghaint hyd at nos Wener.
Ar hyn o bryd, mae yna chwe chlinig ar draws y wlad yn darparu gwrthfiotigau a brechlynnau ar gyfer pobl sy'n gymwys.
Mae dau fyfyrwraig wedi marw yn yr achosion, sef Juliette Kenny, 18 oed a myfyrwraig ym Mhrifysgol Caint.
Symptomau llid yr ymennydd
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae brechu’n "ddull allweddol" o amddiffyn rhag llid yr ymennydd.
Os cafodd plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Medi 2015, bydd wedi cael cynnig brechiad yn erbyn llid yr ymennydd B fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant.
Mae brechlyn yn erbyn llid yr ymennydd math A, C, W ac Y yn cael ei gynnig i bobl ifanc tua 13/14 oed, ond mae modd rhoi brechlyn i fyny hyd at 25 oed.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw brechu’n amddiffyn rhag pob straen llid yr ymennydd.
"Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, gan y gall waethygu'n gyflym. Gall diagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotigau wella canlyniadau'n sylweddol," meddai.
Mae symptomau cynnar, nad ydynt bob amser yn bresennol, yn cynnwys:
· Twymyn
· Pen tost / Cur pen difrifol
· Chwydu
· Gwddf stiff
· Ddim yn hoffi goleuadau llachar
· Brech nad yw'n pylu pan gaiff ei wasgu â gwydr
· Dryswch
· Bod yn gysglyd iawn neu'n anodd deffro
· Trawiadau neu ffitiau
