Brwydro dros Gymru mewn pencampwriaeth ymladd canoloesol rhyngwladol
Bydd criw o Gymru yn brwydro dros eu gwlad mewn pencampwriaeth ymladd canoloesol rhyngwladol yn ystod yr haf.
Bydd 12 ymladdwr o glwb Medieval Combat Wales yn teithio i Ddenmarc i gystadlu ym Mhencampwriaeth Ffederasiwn Ymladd Canoloesol y Byd, lle y bydd timau o bob cwr o'r byd yn dod ynghyd i gystadlu am deitl y byd.
Mae'r gamp yn gweld grŵp o ymladdwyr mewn arfwisgoedd yn reslo a tharo ei gilydd gydag arfau - nad ydynt yn finiog.
Dywedodd arweinydd y clwb Dai Watkins, 46 oed o Bontypridd, ei fod wedi clywed am y gamp gyntaf wrth hyfforddi gydag Undeb Karate Cymru.
“Roedd aelod arall o’r grŵp wedi anfon fideo i mi o ddyn mewn arfwisg, yn rhedeg ar draws y list [yr ardal ymladd] yn gwneud flykick yn yr awyr, gan gicio’r dyn a’i daro dros ei ben gyda bwyell wrth iddo lanio,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Nes i ei ffonio’n syth a dweud, dwi angen gwneud hynny.”
Mae ymladd canoloesol – neu buhurt – yn debyg i’r gamp MMA, ond gydag arfau ac arfwisgoedd.
“Wrth dyfu i fyny mae’r rhan fwyaf o ddynion a menywod eisiau bod yn farchog,” meddai Mr Watkins.
“Mae’n dipyn o ffantasi, ond mae'r gamp ei hun yn greulon – bydd unrhyw un sy'n hoffi gwylio chwaraeon ymladd wrth ei fodd gydag ymladd canoloesol.”
Yn ôl Mr Watkins, mae’r gamp yn heriol yn gorfforol gan fod yn rhaid gwisgo arfwisg sy’n gallu pwyso hyd at 10 stôn, gyda siaced a phâr o drowsus oddi tano.
“Mae’n heriol iawn ceisio ymladd gyda be’ sy’n teimlo fel person arall ar eich cefn mewn gwirionedd, ac mae’n boeth iawn hefyd,” meddai.
“Ond cyn belled â bod eich arfwisg yn ffitio chi, mae’n hawdd iawn symud o gwmpas.”
Erbyn hyn, mae bron i 80 o ddynion a menywod yn rhan o’r clwb.
Maen nhw'n hyfforddi unwaith yr wythnos ar draws tri lleoliad yng Nghymru – Wrecsam yn y gogledd, a Phenfro a Phontypridd yn y de.
Ym mis Gorffennaf, mae 12 aelod o’r criw yn gobeithio cyflawni'r daith 18 awr i Ddenmarc mewn bws mini er mwyn cael y cyfle i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Ffederasiwn Ymladd Canoloesol y Byd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf yng nghastell Spøttrup Borg yn Jutland yng ngogledd y wlad ac yn para am wythnos.
Bydd aelodau o’r clwb yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau gwahanol, gan gystadlu'n unigol ac mewn grŵp.
Yn ôl Mr Watkins, y brif her fydd wynebu ymladdwyr profiadol o wledydd ar draws y bydd – gan gynnwys rhai o’u ffrindiau.
“Ar hyn o bryd rydym ond yn cystadlu yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn ymladd yn erbyn nifer o dimoedd Lloegr a’r Alban," meddai.
“Felly’r brif her fydd ymladd yn erbyn ein ffrindiau, oherwydd rydym yn ffrindiau mawr gyda nifer o’r bois o Loegr a’r Alban – rydym ni’n ymladd gyda’n gilydd, ac rydym ni'n hyfforddi gyda’n gilydd.”
Er gwaethaf natur dreisgar y gamp, mae Mr Watkins yn dweud bod ‘na awyrgylch “cyfeillgar iawn”.
“Dwi wedi bod yn cymryd rhan yn y gamp ers dros chwe blynedd erbyn hyn a does ‘na byth drwg deimlad y tu allan i’r list,” meddai.
“Y tu mewn i’r list, ‘dyn ni’n gwneud yr hyn ‘dyn ni yno i’w wneud ond y tu allan mae ‘na awyrgylch teuluol – mae’n gamp hollol wych.”
Ond y freuddwyd fawr ydi dychwelyd i Gymru yn bencampwr byd.
“Rwyf wedi rhoi fy nghalon i'r clwb am y pum mlynedd diwethaf,” meddai Mr Watkins.
“Felly un o fy nodau oedd fy mod i bob amser eisiau cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol trwy'r gamp.
“Mae'n mynd i olygu popeth i mi eleni, cymaint felly mae fy mam a fy nhad hyd yn oed yn dod allan i wylio."
Lluniau: Medieval Combat Wales