Ymchwilio i gysylltiad posib rhwng Iran ag ymosodiadau ar safleoedd Iddewig yn Llundain

Llun: James Manning/PA
Heddlu yn Llundain

Mae’r heddlu gwrthderfysgaeth yn ymchwilio i gysylltiad grwpiau sy’n gweithredu ar ran Iran â chyfres o ymosodiadau yn erbyn safleoedd Iddewig yng ngogledd Llundain.

Dywedodd Vicki Evans, Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu’r Met, fod cyfres o ddigwyddiadau “debyg eu natur” wedi targedu safleoedd Iddewig ac Israelaidd yng ngogledd Llundain.

Ychwanegodd Ms Evans fod y rhan fwyaf o’r ymosodiadau wedi’u hawlio ar-lein gan Harakat Ashab al-Yamin al-Islamia, sef Mudiad Islamaidd Cymdeithion y Llaw Dde.

Roedd yr un grŵp wedi hawlio ymosodiadau ledled Ewrop yn ddiweddar, gan gynnwys ar safleoedd Iddewig ac Israelaidd, meddai Ms Evans.

“Rwyf am fod yn glir - beth bynnag fo cymhelliant y grŵp hwn - i’r rhai sy’n hwyluso’r ymosodiadau hyn ar ei ran a’r rhai sy’n cyflawni’r gweithredoedd, ni fyddwn yn goddef gweithgarwch sy’n ceisio dychryn a niweidio ein cymunedau," meddai.

“Wrth i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol barhau, mae plismona gwrthderfysgaeth a’n partneriaid yn parhau’n wyliadwrus o’r bygythiad o weithgarwch gelyniaethus gan Iran yn y DU.

“Rydym yn ymwybodol o adroddiadau cyhoeddus sy’n awgrymu y gallai’r grŵp hwn fod â chysylltiadau ag Iran – ac fel y byddwch yn ei ddisgwyl, byddwn yn parhau i ystyried hynny wrth i’n hymchwiliad ddatblygu.”

'Potel o hylif'

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met fod “potel gyda rhyw fath o hylif sy'n gatalydd (accelerant) wedi’i thaflu drwy ffenestr” y synagog, ac fe gafodd mwg ei weld y tu mewn i un o'r ystafelloedd.

Ychwanegodd Yehuda Black, rabi’r synagog, fod yr eitem wedi’i thaflu i’r ystafell feddygol, ond ni chafodd neb ei anafu.

Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi disgrifio'r gyfres o ymosodiadau fel rhai "gwarthus."

Mewn datganiad ar blatfform X, dywedodd: “Rwyf wedi synnu ac yn ofidus ar ôl yr ymosodiadau o losgi bwriadol gwrth-Semitaidd diweddar yng ngogledd Llundain.

“Mae hyn yn warthus ac ni fydd yn cael ei oddef. Mae ymosodiadau ar ein cymuned Iddewig yn ymosodiadau ar Brydain.

“Rydym yn cynyddu presenoldeb yr heddlu a bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu canfod a’u dwyn i gyfrif."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.