'Wrth wraidd y ddrama': Cyfres newydd am Huw Edwards yn 'canolbwyntio ar y goroeswr'
Mae Cymro a fydd yn chwarae rhan un o brif gymeriadau cyfres newydd am gwymp y cyn-ddarlledwr Huw Edwards yn dweud fod perspectif y "bachgen ifanc a'r goroeswr wrth wraidd y ddrama".
Mae'r gyfres Power: The Downfall of Huw Edwards yn canolbwyntio ar "fywyd dwbl" cyn-gyflwynydd y BBC a sut y datblygodd y sgandal a ddaeth i ben pan gafodd ddedfryd o chwe mis o garchar wedi'i gohirio ym mis Gorffennaf 2024.
Martin Clunes fydd yn chwarae rhan Huw Edwards yn y gyfres, gydag Osian Morgan yn chwarae bachgen ifanc sydd yn cyfathrebu gyda Huw Edwards.
Roedd Huw Edwards yn o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar y teledu cyn i'w yrfa ddisglair orffen.
Y Cymro 64 oed oedd y darlledwr newyddion ar y cyflog uchaf yn y BBC cyn iddo adael y gorfforaeth.
Fe gyflwynodd News At Ten am ddegawdau cyn iddo bledio’n euog i droseddau yn cynnwys creu delweddau anweddus o blant, a bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
Pan y gwnaeth Osian Morgan ddarganfod y byddai'r ddrama yn dilyn hanes Huw Edwards, dywedodd nad oedd "yn gallu coelio'r peth".
"Ond ro'n i mor hapus fod y stori yn cael ei dweud mewn ffordd mor ddewr, yn pwysleisio ochr Ryan yn fwy na Huw," meddai.
"Roedd Huw Edwards fel arwr i ni yng Nghymru - roedd pawb yn ymwybodol ohono, ac roedd clywed yr acen gref Gymreig honno yn cyflwyno'r rhaglen newyddion fwyaf yn y wlad wir yn golygu rhywbeth.
"Roedd yn teimlo fel cynrychiolaeth, ac roedd yn dod â llawer o falchder i ni. Felly pan y gwnaeth y stori dorri, roedd yn sioc enfawr.
"Ond mae'r ddrama yma yn fwy am y niwed a'r effaith ar Ryan, yn hytrach na seicoleg Huw Edwards. Mae mor ddewr a beiddgar ac rwy'n hynod falch ohono."
'Ar goll'
Ychwanegodd Osian ei fod yn teimlo cyfrifoldeb mawr tuag at Ryan.
"Roeddwn i eisiau gwneud y perfformiad mor onest â phosib," meddai.
"Mae'r Ryan rydym ni'n ei weld ar goll.
"Rydych yn mynd o fod yn ddiniwed i gael cyfrifoldebau oedolyn, ac ar ben hynny, mae Ryan yng nghanol argyfwng hunaniaeth - dyw e ddim yn deall ei rywioldeb na phwy yw e."
Ychwanegodd: "Mae'n cael ei ddefnyddio'n llwyr, ac mae'n hynod o drist. Mae yna hefyd lefel o bryder a chyffro i fod yn cyfathrebu â ffigwr mor bwerus ac uchel ei broffil.
"Felly mae cymaint o bethau'n digwydd i Ryan ar yr adeg yma o'i fywyd, ac roeddwn i eisiau eu portreadu mor onest ag y gallwn."
'Am y goroeswr'
Mae Osian yn gobeithio y bydd y gynulleidfa yn gallu deall mwy am safbwynt Ryan.
"Pan mae'r ddrama yn cynnwys rhywun mor uchel ei broffil â Huw Edwards, mae yna wastad risg mai stori am gwymp y dyn pwerus fydd hi. Ond mae Ryan wrth wraidd y ddrama yma, mae hi am y goroeswr.
"Mae'r newid ffocws hwnnw'n wirioneddol bwysig i mi... oherwydd rydyn ni'n anrhydeddu profiad bywyd rhywun oedd yn fregus ac a gafodd ei ddal mewn anghydbwysedd pŵer enfawr.
Ychwanegodd: "Mae cynulleidfaoedd wedi arfer â gwylio straeon sydd yn canolbwyntio ar y troseddwr a'u cwymp nhw, ond mae'r ddrama hon yn gofyn cwestiwn gwahanol - beth mae'r profiad yn ei wneud i'r goroeswr?
"Dwi'n meddwl os ydy cynulleidfaoedd yn gallu gadael yn meddwl llai am y sgandal, a mwy am y gost ddynol y tu ôl i'r penawdau, yna rydyn ni wedi llwyddo i wneud rhywbeth o bwys."
Dywedodd Martin Clunes, sydd yn chwarae rhan Huw Edwards: "Ro'n i'n gwybod y byddai'n her ar sawl lefel.
"Y sgript ydy'r peth pwysicaf ac ro'n i'n meddwl ei fod yn bwerus - mae wastad yn dda pan mae drama yn mynd i'r afael â straeon anodd, yn enwedig mewn ffordd mor ddeallus â'r prosiect hwn.
"Y tu hwnt i'r chwilfrydedd o gwmpas y stori yma, ro'n i wir yn meddwl fod yna stori arall oedd werth ei dweud, sef stori 'Ryan' a'i deulu. Yn amlwg mae'r wasg wedi ffocysu ar gwymp Huw Edwards, sydd wrth gwrs yn stori fawr.
"Ond y tu ôl i hynny, mae yna lanc a'i deulu ac fe gafodd eu bywydau eu troi ben eu waered a'u dinistrio. Dwi ddim ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol a doedd gen i ddim syniad fod y math o beth yma yn digwydd."
Fe fydd Power: The Downfall of Huw Edwards yn cael ei darlledu ar 24 Mawrth ar sianel 5.
