'Trydydd croesiad dros y Fenai yn ateb amlwg' medd Prif Weinidog Cymru

'Trydydd croesiad dros y Fenai yn ateb amlwg' medd Prif Weinidog Cymru

Mae trydydd croesiad dros y Fenai yn 'ateb amlwg' yn ôl Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth, wedi i Bont y Borth orfod cau am yr eildro mewn wythnos fore Mawrth. 

Cafodd y bont ei chau am gyfnod ddydd Mawrth wedi i gerbyd oedd dros ei bwysau geisio ei chroesi.

Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Môn ddydd Mawrth, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C fod y ffaith fod Pont y Borth ar gau unwaith eto yn "rhwystredig iawn, iawn."

"Beth sydd angen ei sicrhau wrth gwrs ydi bod y bont yn gallu agor eto mor fuan â phosib a bod y gwaith cynnal a chadw  a thrwsio rwan yn gallu digwydd mor fuan â phosib," meddai. 

"Ma’ ‘na gwestiwn arall wedyn wrth gwrs o wytnwch y croesiad a mae fy Llywodraeth i’n benderfynol o fwrw ati i chwilio am yr atebion sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol."

Yn ôl y Prif Weinidog, mae "trydydd croesiad yn ateb amlwg".

"Be ‘dan ni’n chwilio amdana fo wrth gwrs ydi nid pont, ond bod yna wytnwch i’r croesiad," meddai. 

"Ma’ ‘na nifer o opsiynau, be sydd genna ni’r cyfle i neud rwan wrth gwrs fel Llywodraeth ydi mynd ati yn syth, i neud yn siwr bod yr atebion gorau er mwyn rhoi’r gwytnwch yna yn ei le yn cael ei weithredu."

Dywedodd Traffig Cymru bod y bont wedi'i chau dros dro wrth i archwiliad gael ei gynnal.

Daw'r datblygiad wrth i filoedd o bobl deithio i’r ynys ddydd Mawrth ar gyfer pedwerydd diwrnod o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai.

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhyddhau datganiad yn cynghori teithwyr i "adael digon o amser ychwanegol" wrth deithio i'r maes.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru: “Mae cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont felly mae’n rhaid cau’r ffordd er mwyn gwneud archwiliad. Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny.

“Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig.

“Hoffwn eich atgoffa mai cerbydau o dan 7.5 tunnell yn unig sy’n cael croesi Pont y Borth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.