Trump yn honni iddo ef a Xi Jinping gytuno ar sut y dylai’r rhyfel yn Iran ddod i ben
Mae Donald Trump wedi honni ei fod ef a Xi Jinping wedi "setlo llawer o broblemau gwahanol na fyddai pobl eraill wedi gallu eu datrys", gan gynnwys sut y dylai’r rhyfel yn Iran ddod i ben.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynnu bod y berthynas rhyngddo ef ac Arlywydd Tsieina yn "un gref", gan ychwanegu eu bod wedi cyflawni "rhai pethau gwych" yn ystod ei ymweliad gwladol dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd Mr Trump fod y rhyfel yn Iran wedi bod yn rhan o’r trafodaethau, gan honni fod yr Unol Daleithiau a Tsieina "yn teimlo’n debyg iawn ynglŷn â sut yr ydym am iddo ddod i ben", gan egluro: "Nid ydym am iddynt gael arf niwclear."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod y ddwy ochr eisiau i Gulfor Hormuz ailagor, oherwydd "mae’n beth gwallgof".
"Maen nhw ychydig yn wallgof ac nid yw hynny’n dda," ychwanegodd.
Ar ddiwrnod olaf ei ymweliad, fe wnaeth Mr Trump ddiolch i Mr Jinping a dweud: "Mae wedi bod yn gwpl o ddiwrnodau gwych iawn."
Fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau ganmol Mr Jinping a’i gynrychiolwyr fel "pobl wych", gan honni eu bod "wedi dod yn gyfeillgar â phob un ohonyn nhw".
Ychwanegodd y bydd Arlywydd Tsieina yn dod i’r Unol Daleithiau ym mis Medi, a’i fod yn gobeithio y bydd yn "cerdded i ffwrdd gydag argraff fawr, fel yr wyf fi wedi cael argraff fawr gan Tsieina".
Daw sylwadau Mr Trump ar ôl iddo ddweud nad oedd Mr Jinping yn cyfeirio ato ef pan ddisgrifiodd yr Unol Daleithiau fel "cenedl sy’n dirywio".
Yn hytrach, mae’n honni fod Arweinydd Tsieina yn cyfeirio at gyn-arweinydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden.
Llun: Reuters