Andy Burnham i geisio dychwelyd i San Steffan i herio'r Prif Weinidog

Andy Burnham i geisio dychwelyd i San Steffan i herio'r Prif Weinidog

Mae Andy Burnham wedi dweud y bydd yn gofyn i sefyll dros y Blaid Lafur mewn is-etholiad yn Lloegr ar ôl i AS ymddiswyddo, er mwyn gwneud lle i Faer Manceinion ddychwelyd i'r Senedd i herio Syr Keir Starmer.

Dywedodd Mr Burnham ei fod am ddychwelyd i San Steffan i "ddod â'r newid rydyn ni wedi'i gyflawni ym Manceinion i'r DU gyfan".

Daw ar ôl i Josh Simons, AS Llafur dros Makerfield, ddweud y byddai'n ymddiswyddo fel y gall Mr Burnham "yrru'r newid y mae ein gwlad yn gweiddi amdano".

Ni fydd Syr Keir yn ceisio rhwystro Mr Burnham rhag dod yn ymgeisydd Llafur yn is-etholiad Makerfield, yn ôl adroddiadau.

Yn gynharach ddydd Iau, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ei fod yn ymddiswyddo o lywodraeth Syr Keir, gan ddweud ei fod wedi "colli hyder" yn ei arweinyddiaeth. 

Mae'n dilyn dyddiau o ffraeo cyhoeddus wedi canlyniadau trychinebus y Blaid Lafur yn yr etholiadiau yr wythnos diwethaf.

Nid yw Mr Streeting wedi cyflwyno cais am swydd Syr Keir eto, ond fe wnaeth annog y Prif Weinidog i ganiatáu i'r "ymgeiswyr gorau posib" ymgeisio i'w ddisodli yn Stryd Downing, gan awgrymu y gallai fod o blaid cynnwys Mr Burnham.

Cafodd Mr Burnham ei rwystro gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol rhag sefyll fel ymgeisydd Llafur yn is-etholiad Gorton a Denton.

Dywedodd ffynhonnell yn y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol nad yw'n "glir eto" a fydd y pwyllgor yn caniatáu i Mr Burnham sefyll yn is-etholiad Makerfield.

Os yw Mr Burnham yn awyddus i gynnig ei hun i gymryd lle Syr Keir fel arweinydd y Blaid Lafur, byddai angen iddo yn gyntaf ennill is-etholiad a sicrhau sedd fel AS mewn pryd i allu ymuno ag unrhyw gystadleuaeth arweinyddiaeth a allai gael ei sbarduno.

Ychwanegodd Mr Burnham yn ei ddatganiad: "Mae'n rhaid i ni ddod yn ôl at ein gilydd fel mudiad Llafur, gan roi'r lle a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar y Prif Weinidog a'r Llywodraeth wrth i'r is-etholiad ddigwydd."

Mae Makerfield wedi bod dan reolaeth Llafur ers i'r etholaeth gael ei chreu yn 1983, gyda Mr Simons yn ennill gyda mwyafrif o tua 5,000 yn 2024.

Ond gallai Reform UK fod yn fygythiad i'r llwyddiant hwnnw.

Enwau posib

Ymhlith yr enwau eraill allai herio'r Prif Weinidog mae’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Ynni a chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband a’r gweinidog lluoedd arfog Al Carns.

Mewn erthygl yn The New Statesman ddydd Iau, dywedodd Mr Carns: “Nid oes angen mwy o sloganau, strategaethau, datganiadau i’r wasg na chomisiynau arnom. Mae angen gweithredu.”

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog David Lammy wedi cwestiynu a all unrhyw un o gystadleuwyr y prif weinidog gasglu’r gefnogaeth angenrheidiol i lansio ymgyrch am yr arweinyddiaeth.

Mae disgwyl i Syr Keir ei hun ymladd unrhyw her am ei arweinyddiaeth, a threuliodd brynhawn dydd Mercher yn cwrdd â gweinidogion ac ASau Llafur wrth iddo geisio osgoi cael ei ddisodli.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.