Starmer yn 'agored' i drafod mwy o bwerau i Senedd Cymru

Keir Starmer a Rhun ap Iorwerth

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi cynnig cyfarfod gydag arweinwyr y llywodraethau datganoledig y mis nesaf, ar ôl cadarnhau y byddai’n "agored" i drafod datganoli rhagor o bwerau i Senedd Cymru.

Fe gyflwynodd Syr Keir y syniad o gyfarfod ym mis Mehefin yn ystod galwad ffôn gyda Phrif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Mewn datganiad yn dilyn yr alwad ddydd Iau, dywedodd swyddfa Prif Weinidog Cymru: "Fe wnaeth Prif Weinidog y DU longyfarch Prif Weinidog Cymru ar ei benodiad, gan nodi ei fod yn awyddus i sefydlu dulliau o gydweithio ar sail buddiannau cyffredin.

"Fe ymatebodd Prif Weinidog Cymru drwy ddweud ei fod yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas adeiladol rhwng ei Lywodraeth ef a’u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU.

"Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ei wneud yn glir y bydd yn dymuno trafod y fformiwla Barnett, cyllid teg, pwerau benthyca, rheilffyrdd a rhagor o ddatganoli.

"Fe nododd Prif Weinidog Cymru fod mwyafrif yn y Senedd, gan gynnwys y grŵp Llafur, o blaid pwerau estynedig.

"Fe gadarnhaodd Prif Weinidog y DU y byddai’n agored i sgwrs am bwerau sy’n ymwneud â datganoli, gan gynnig cyfarfod wyneb yn wyneb ym mis Mehefin gyda phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod materion perthnasol."

Dywedodd y datganiad hefyd fod Prif Weinidog Cymru wedi gofyn am gydweithrediad gan Syr Keir "ar effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar gostau byw".

Cafodd Mr ap Iorwerth hefyd alwadau ffôn ddydd Iau gyda Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill.

Daeth y sgwrs ar ôl i Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting, ymddiswyddo o lywodraeth Syr Keir, gan ddweud ei fod wedi "colli hyder" yn ei arweinyddiaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.