Myfyriwr wedi marw a dau berson yn cael triniaeth wedi achosion o lid yr ymennydd
Mae myfyriwr wedi marw a dau berson yn cael triniaeth wedi achosion o lid yr ymennydd math B yn Berkshire, meddai Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
Dywedodd y sefydliad iechyd fod cysylltiadau agos y rhai sydd wedi'u heffeithio yn cael cynnig gwrthfiotigau fel mesur rhagofalus.
Y gred yw nad yw'r achos diweddaraf yn Berkshire yr un straen o lid yr ymennydd math B sy'n gysylltiedig â'r achosion yng Nghaint ym mis Mawrth.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod y risg i'r cyhoedd yn parhau i fod yn isel ar hyn o bryd.
Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, dywedodd yr asiantaeth fod ei harbenigwyr yn "gweithio gyda phartneriaid yr awdurdod lleol a'r GIG yn dilyn tri achos o haint meningococcal (meningitis) mewn pobl ifanc yn Reading".
Yn ôl meddygfa yn Henley-on-Thames, myfyriwr yng Ngholeg Henley yn Sir Rydychen oedd y person a fu farw.
Y gred yw bod y ddau achos arall yn gysylltiedig ag ysgolion yn ardal Reading.
"Annwyl gleifion. Rydym wedi bod mewn cysylltiad ag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU y bore yma (14eg Mai) ynglyn â'r newyddion trist iawn bod myfyriwr yng Ngholeg Henley wedi marw o haint meningococcal tybiedig," meddai Hart Surgery mewn datganiad nos Iau.
"Maen nhw wedi cadarnhau eu bod yn cysylltu â’r rhai a allai fod mewn perygl oherwydd cysylltiad agos â’r myfyriwr dan sylw.
"Os nad yw Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cysylltu â chi, nid oes angen unrhyw driniaeth arnoch ar hyn o bryd. Mae staff a myfyrwyr wedi cael gwybod y gallant fynychu’r coleg fel arfer.
"Mae nifer yr achosion wedi’u cadarnhau yn isel iawn, felly nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer rhaglen frechu llid yr ymennydd frys leol."
Mae Coleg Henley, yn Henley-on-Thames, yn goleg chweched dosbarth gyda mwy na 2,000 o fyfyrwyr llawn amser, yn ôl ei wefan.
Beth yw'r symptomau?
Ddydd Iau, dywedodd Dr Paddy Woodman, cyfarwyddwr gwasanaethau myfyrwyr ym Mhrifysgol Reading: "Er nad oes unrhyw achosion wedi'u hadrodd ymhlith myfyrwyr Prifysgol Reading, rwy'n gwybod y gallai ein myfyrwyr, staff ac aelodau o'n teuluoedd fod yn bryderus.
"Byddwn yn cysylltu â myfyrwyr i'w hatgoffa o'r wybodaeth sydd ar gael am edrych am arwyddion llid yr ymennydd, a phwysigrwydd gweithredu ar unwaith ar unrhyw symptomau pryderus, yn ogystal â gwirio eu statws brechu."
Bu farw dau fyfyriwr yn dilyn achos o lid yr ymennydd yng Nghaint ym mis Mawrth - Juliette Kenny, 18 oed, a gafodd ei disgrifio gan ei theulu fel unigolyn "ffit, iach a chryf" cyn ei marwolaeth, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Caint.
Dywedodd prif weithredwr yr elusen Meningitis Now, Dr Tom Nutt: "Mae pawb yn Meningitis Now yn drist iawn ac yn bryderus iawn o glywed adroddiadau am achos tybiedig o lid yr ymennydd sy’n effeithio ar bobl ifanc yn Reading a’r cyffiniau, gan gynnwys marwolaeth drasig person ifanc.
"Byddem yn annog pobl i aros yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o arwyddion a symptomau’r clefyd.
"Gall llid yr ymennydd ddod yn fygythiad i fywyd yn gyflym iawn, ac mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn hanfodol."
Yn ôl Dr Nutt, gall symptomau ymddangos mewn "unrhyw drefn" a gallant gynnwys tymheredd uchel, cur pen difrifol, chwydu, gwddf anystwyth, sensitifrwydd i olau, dryswch, teimlo'n gysglyd, dwylo a thraed oer, poen cyhyrau difrifol, a brech nad yw’n pylu o dan bwysau.
"Mae pobl ifanc ac oedolion ifanc ymhlith y grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o haint meningococcal, ac mae’r achos diweddar yng Nghaint wedi dangos pa mor gyflym y gall achosion ddod i’r amlwg," ychwanegodd.